swydd o Flaenor gyda'r Methodistiaid, a Chlochydd yr eglwys, ac yn byw yn nyddiau Daniel Rowland, Llangeitho. Felly, y mae ein cyfaill, Mr. William Morgan "yn Fethodist o waed."
Cafodd Mr. Morgan fantais ysgol ddyddiol gwell na'r cyffredin yn Dowlais, a chafodd aros ynddi yn hwy nag y caniateid i fechgyn yn gyffredin; a gwnaeth yntau ddefnydd iawn o'i addysg boreuol, fel y prawf ei fywyd dilynol.
Ymgymerodd â'r alwedigaeth o wneyd beddfeini (monumental mason), a dangosodd fedr neillduol at hyn yn fuan. Mae ei glod bellach ar led yn yr alwedigaeth hon, fel y prawf beddrodau Islwyn, Dr. Saunders, ac enwogion eraill.
Pan yn 26ain oed, aeth ei fryd ar photography; gwneyd darluniau o oleuni yn gystal ag o farmor. Aeth i drafferth a thraul i ddysgu y gelfyddyd yn drwyadl; a diau nad oes yr un Cymro yn rhagori arno yn y gwaith hwn. Oddiar hyny, y mae wedi dwyn y ddwy alwedigaeth ymlaen yn gyfochrog a llwyddiannus, gan ranu ei amser rhwng y naill a'r llall.
Yr oedd, er yn llanc, yn fwy o ddarllenwr na'i gyfoedion, a chymerai ran flaenllaw gyda Chymdeithasau Dirwestol a Llenyddol Merthyr a Dowlais; ac mor fore a 1871, byddai yn cyflawni swydd beirniad yn Eisteddfodau Dirwestol Cymrodorion Merthyr Pan ymgymerodd Ieuan Gwyllt a golygiaeth yr Amserau, penodwyd Mr. Morgan yn ohebydd y dosbarth, a pharhaodd yn ohebydd cyson am ddeng mlynedd; a gwyddom ei fod yn un o'r rhai galluocaf oedd yn perthyn i'r staff.
Dewiswyd ef yn flaenor yn Eglwys Libanus, Dowlais, yn 1865; ac y mae wedi para yn ffyddlon i'w swydd; ac nid yn unig yn flaenor i'r eglwys hono, ond yn un o flaenoriaid mwyaf craff, goleuedig, a doniol Dwyrain Morganwg. Y mae hefyd yn blaenori bob amser yn holl symudiadau crefyddol, gwleidiadol, dirwestol, cerddorol, a llenyddol y dref y mae yn byw ynddi. Yr unig bethau y mae ganddo wrthwynebiad iddynt yw y byrddau lleol nid yw yn hoffi y rhai hyn, ac y mae yn cadw allan o honynt.
Y mae wedi arfer bod yn fyw iawn i holl symudiadau y Cyfundeb. Cymerodd ran bwysig yn y symudiad aflwyddiannus o uno y ddwy Athrofa, rai blynyddoedd yn ol; a thybiwn nad ysgrifenodd neb fwy, os cymaint, ar y pwnc: ac y mae ef, fel llawer yn teimlo mor gryf ar y pwnc heddyw ag erioed.
Y mae Mr. Morgan wedi ysgrifenu amryw lyfrau. Yn 1890, cyhoeddodd ei Album o Williams, Pantycelyn, a darluniau lleoedd cysylltiedig â'i hanes; llyfr ennillodd glod i'w awdwr, ac a gafodd gylchrediad helaeth. Yn 1893, cyhoeddodd ei Vaynor Handbook yn rhoddi hanes a darluniau o bersonau a dygwyddiadau cysylltiedig â'r Vaynor, lle gerllaw Dowlais. Yn Mai, 1894, mewn undeb a'r Parch. J. Morgan Jones, cyhoeddwyd y rhan I. o'r Tadau Methodistaidd. Erbyn hyn, y mae y Gyfrol gyntaf o'r gwaith pwysig hwn wedi ei gorphen. Y