8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
9 ¶ Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan.
10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
12 ¶ Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.
13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thri ugain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
18 ¶ A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thri ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thri ugain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
21 ¶ Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Methuselah.
22 Ac Enoch a rodiodd gyd â DUW wedi iddo genhedlu Methuselah, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thri ugain a thri chant o flynyddoedd.
24A rhodiodd Enoch gyd â DUW, ac ni welwyd ef; canys DUW a'i cymmerodd ef.
25 Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
26 A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flyneddd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
27 A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thri ugain a naw can mlynedd, ac efe a fu farw.
28 ¶ Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab;
29 Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, Hwn a'n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylaw, o herwydd y ddaear yr hon a felldigodd yr ARGLWYDD.
30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; a efe a fu farw.
32 A Noah ydoedd fab pum can mlwydd; a Noah a genhedlodd Sem, Cham, a Japheth.
PENNOD VI.
1 Drygioni y byd, yr hwn a gyffrôdd ddigllonedd Duw, ac a barodd y diluw. 8 Noah yn cael ffafr. 14Trefn a phortreiad, a'r achos y gwnaed yr arch.
YNA y bu, pan ddechreuodd dynion amlhâu ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
2 Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.
3 A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid ymrysona fy Yspryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a'i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
4 Cawri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma y cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5 ¶ A'r ARGLWYDD a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
6 Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur o hono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiaid, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8 ¶ Ond Noah a gafodd ffafr y'ngolwg yr ARGLWYDD.
9 ¶ Dyma genedlaethau Noah: Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â DUW y rhodiodd Noah.
10 A Noah a genhedlodd dri o feibion Sem, Cham, a Japheth.
11 A'r ddaear a lygrasid ger bron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
12 A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
13 A DUW a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a'u difethaf hwynt gyd â'r ddaear.
14¶ Gwna i ti arch o goed Gopher; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi fewn ac oddi allan â phyg.
15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hŷd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
16 Gwna ffenestr i'r arch, a gorphen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.
17 Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
18 Ond â thi y cadarnhâf fy nghyfammod; ac i'r arch yr âi di, tydi a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyd â thi.
19 Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i'r arch i'w cadw yn fyw gyd â thi; gwrryw a benyw fyddant.
20 O'r ehediaid wrth eu rhywogaethh, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth, dau o bob rhywogaeth a ddaw attat i'w cadw yn fyw.
21 A chymmer i ti o bob bwyd a fwyttêir, a chasgl attat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
22 Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.
PENNOD VII.
1 Noah a'i deulu a'r creaduriaid byw yn myned i'r arch. 11 Dechreuad, cynnydd, a pharhâd y diluw.
YNA y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noah, Dos di, a'th holl dŷ i'r arch: