Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

16 Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhâu yr amlhâf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd at dy wr, ac efe a lywodraetha arnat ti.

17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a bwytta o'r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o'th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.

18 Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwyttêi di.

19 Trwy chwys dy wyneb y bwyttêi fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaear; oblegid o honi y'th gymmerwyd: canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.

20 A'r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.

21 A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i Adda ac i'w wraig beisiau crwyn, ac a'u gwisgodd am danynt hwy.

22 ¶ Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un o honom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwytta, a byw yn dragywyddol:

23 Am hynny yr ARGLWYDD DDUW a'i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaear, yr hon y cymmerasid ef o honi.

24Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o'r tu dwyrain i ardd Eden, y cerubiaid, a chleddyf tanllyd ysgwydedig, i gadw ffordd pren y bywyd.


PENNOD IV.

1 Genedigaeth, celfyddyd, a chrefydd Cain ac Abel. 8 Lladd Abel. 11 Melldigo Cain. 17 Enoch y ddinas gyntaf. 19 Lamech a'i ddwy wraig. 25 Genedigaeth Seth, 26 ac Enos.

AC Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais wr gan yr ARGLWYDD.

2 A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaear.

3 A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i'r ARGLWYDD.

4 Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o'u brasder hwynt. A'r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:

5 Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A digllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynebpryd ef.

6 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynebpryd?

7 Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.

8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef.

9 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?

10 A dywedodd DUW, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o'r ddaear.

11 Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di.

12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.

13 Yna y dywedodd Cain wrth yr ARGLWYDD, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu.

14Wele, gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaear, ac o'th ŵydd di y'm cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a'm caffo a'm lladd.

15 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Am hynny y dïelir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r ARGLWYDD a osododd nôd ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.

16 ¶ A Chain a aeth allan o ŵydd yr ARGLWYDD, ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.

17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ol enw ei fab, Enoch.

18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehuiael, a Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.

19 ¶ A Lamech a gymmerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Adah, ac enw yr ail Sìlah.

20 Ac Adah a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.

21 Ac enw ei frawd ef oedd Jubal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.

22 Sìlah hithau a esgorodd ar Tubal-Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haiarn: a chwaer Tubal-Cain ydoedd Naamah.

23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Adah a Sìlah, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandêwch fy lleferydd; canys mi a leddais wr i'm harcholl, a llangc i'm clais.

24Os Cain a ddïelir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.

25 ¶ Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: O herwydd DUW, eb hi, a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.

26 I'r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr ARGLWYDD.


PENNOD V.

1 Achau, oedran, a marwolaeth y aptrierch, o Adda hyd Noah. 24Duwioldeb Enoch, a Duw yn ei gymmeryd ef ymaith.

DYMA lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd DUW ddyn, ar lun DUW y gwnaeth efe ef.

2 Yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a'u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crëwyd hwynt.

3 ¶ Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a'i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.

4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.

5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.

6 ¶ Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos.

7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.