PENNOD II.
1 Y dydd Sabbath. 4 Dull y creadwriaeth. 8 Plannu gardd Eden, 10 a'i hafon. 17 Gwahardd pren gwybodaeth yn unig. 19 Enwi y creaduriaid. 21 Gwneuthur gwraig, ac ordeinio prïodas.
FELLY y gorphenwyd y nefoedd a'r ddaear, a'u holl lu hwynt.
2 Ac ar y seithfed dydd y gorphenodd DUW ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
3 A DUW a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef; oblegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasai DUW i'w wneuthur.
4 ¶ Dyma genhedlaethau y nefoedd a'r ddaear, pan grëwyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW ddaear a nefoedd,
5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaear; a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan: oblegid ni pharasai yr ARGLWYDD DDUW wlawio ar y ddaear, ac nid ydoedd dyn i lafurio y ddaear.
6 Ond tarth a esgynodd o'r ddaear, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaear.
7 A'r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a'r dyn a aeth yn enaid byw.
8 ¶ Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du y dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe.
9 A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd y'nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear.
10 Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11 Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafilah, lle y mae yr aur:
12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae Bdeliwm a'r maen Onix.
13 Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14 Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du y dwyrain i Assyria: a'r bedwaredd afon yw Euphrates.
15 A'r ARGLWYDD DDUW a gymmerodd y dyn, ac a'i gosododd ef y'ngardd Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi.
16 A'r ARGLWYDD DDUW a orchymynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwytta y gelli fwytta:
17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o hono; oblegid yn y dydd y bwyttêi di o hono, gan farw y byddi farw.
18 ¶ Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymmwys iddo.
19 A'r ARGLWYDD DDUW a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoddd, ac a'u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.
21 A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i drwmgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymmerodd un o'i asennau ef, ac a gauodd gig yn ei lle hi.
22 A'r ARGLWYDD DDUW a wnaeth yr asen a gymmerasai efe o'r dyn, yn wraig, ac a'i dug at y dyn.
23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o'm hesgyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymmerwyd hi.
24 O herwydd hyn yr ymedy gwr â'i dad, ac â'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.
PENNOD III.
1 Y sarph yn hudo Efa. 6 Cywilyddus gwymp dyn. 9 Duw yn eu holi ac yn eu barnu hwy. 14 Melldigo y sarph. 15 Addaw yr had. 16 Cospedigaeth dyn. 21 Ei wisgad cyntaf; 22 a'i fwrw allan o Baradwys.
A'R sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai dïau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwytta o bob pren o'r ardd?
2 A'r wraig a ddywedodd wrth y sarph, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwytta:
3 Ond am ffrwyth y pren sydd y'nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwyttêwch o hono, ac na chyffyrddwch âg ef, rhag eich marw.
4 A'r sarph a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
5 Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwyttaoch o hono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a'i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o'i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i'w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.
7 A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wnïasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
8 A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD DDUW yn rhodio yn yr ardd, gyd âg awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD DDUW, ym mysg prennau yr ardd.
9 A'r ARGLWYDD DDUW a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?
10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
11 A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchymynaswn i ti na fwyttâit o hono, y bwytteaist?
12 Ac Adda a ddywedod, Y wraig a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwytteais.
13 A'r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A'r wraig a ddywedodd, Y sarph a'm twyllodd, a bwytta a wneuthum.
14 A'r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y sarph, Am wneuthur o honot hyn, melldigediccach wyt ti na'r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttêi holl ddyddiau dy einioes.
15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.