Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLYFR CYNTAF MOSES

Yr Hwn A Elwir

GENESIS

PENNOD I.

1 Crëadwriaeth nef a daear, 3 a’r goleuni, 6 a'r ffurfafen. 9 Neillduo y ddaear oddi wrth y dyfroedd, 11 a'i gwneuthur yn ffrwythlawn. 14 Yr haul, y lleuad, a'r sêr; 20 y pysgod a'r adar, 24 a’r anifeiliaid, 26 dyn ar lun Duw. 29 Ordeinio lluniaeth ac ymborth.

YN y dechreuad y creodd DUW y nefoedd a'r ddaear.

2 A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd DUW yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.

3 A DUW a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. 4 A DUW a welodd y goleuni, mai da oedd: a DUW a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch.

5 A DUW a alwodd y goleuni yn Ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf.

6 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen y'nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd.

7 A DUW a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.

8 A'r ffurfafen a alwodd DUW yn Nefoedd: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, yr ail ddydd.

9 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i'r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.

10 A'r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd.

11 A DUW a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had a phrennau ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y ma eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.

12 A'r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a DUW a welodd mai da oedd.

13 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y trydydd dydd.

14 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.

15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.

16 A DUW a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe.

17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes DUW hwynt, i oleuo ar y ddaear,

18 Ac i lywodraethu y dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd DUW mai da oedd.

19 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.

20 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.

21 A DUW a greodd y môrfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.

22 A DUW a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a llïosoged yr ehediaid ar y ddaear.

23 A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pummed dydd.

24 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.

25 A DUW a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd DUW mai da oedd.

26 ¶ DUW hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

27 Felly DUW a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw DUW y creodd efe ef: yn wrryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.

28 DUW hefyd a'u bendigodd hwynt, a DUW a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymmudo ar y ddaear.

29 ¶ A DUW a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.

30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymmudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.

31 A gwelodd DUW yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.