Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw y môr heli.

4 Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a'r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.

5 A'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a'r brenhinoedd y rhai oedd gyd âg ef, ac a darawsant y Rephaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a'r Zuziaid yn Ham, a'r Emiaid yn Safeh-Ciriathaim,

6 A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.

7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a darawsant holl wlad yr Amaleciaid, a'r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson-tamar.

8 Allan hefyd yr aeth brenhin Sodom, a brenhin Gomorrah, a brenin Admah, a brenhin Seboim, a brenhin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;

9 A Chedorlaomer brenhin Elam, a Thidal brenhin y cenhedloedd, ac Amraphel brenhin Sinar, ac Arioch brenhin Elasar: pedwar brenhin yn erbyn pump.

10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorrah a ffoisant, ac a syrthiasant yno: a'r lleill a ffoisant i'r mynydd.

11 A hwy a gymmerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorrah, a'u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.

12 Cymmerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a'i gyfoeth, ac a aethant ymaith; o herwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.

13 A daeth un a ddïangasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo y'ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a'r rhai hyn oedd mewn cynghrair âg Abram.

14 A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o'i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddau naw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

15 As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a'i weision, ac a'u tarawodd hwynt, ac a'u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o'r tu aswy i Damascus.

16 Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a'i frawd Lot hefyd, a'i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a'r gwragedd hefyd, a'r bobl.

17 ¶ A brenhin Sodom a aeth allan i'w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a'r brenhinoedd oedd gyd âg ef,) i ddyffryn Safeh, hwn yw dyffryn y brenhin.

18 Melchisedec hefyd, brenhin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i DDUW goruchaf:

19 Ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:

20 A bendigedig fyddo DUW goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.

21 A dywedodd brenhin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymmer i ti y cyfoeth.

22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenhin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr ARGLWYDD DDUW goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,

23 Na chymmerwn o edau hyd garrai esgid, nac o'r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd o honot, Myfi a gyfoethogais Abram:

24 Ond yn unig yr hyn a fwyttaodd y llangciau, a rhan y gwŷr a aethant gyd â mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhan.

PENNOD XV

1 Duw yn cysuro Abram. 2 Abram yn cwyno nad oedd ganddo etifedd. 4 Duw yn addaw mab iddo, ac amlhâu ei had ef. 6 Abram a gyfiawnhêir trwy ffydd. 7 Addewid o wlad Canaan trachefn, a'i gadarnhâu trwy arwydd, 12 a gweledigaeth.

WEDI y pethau hyn, y daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.

2 A dywedodd Abram, ARGLWYDD DDUW, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleazar yma o Damascus.

3 Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.

4 Ac wele air yr ARGLWYDD atto ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o'th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.

5 Ac efe a'i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.

6 Yntau a gredodd yn yr ARGLWYDD, ac efe a'i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.

7 Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a'th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i'w hetifeddu.

8 Yntau a ddywedodd, ARGLWYDD DDUW, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?

9 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colommen.

10 Ac efe a gymmerth iddo y rhai hyn oll, ac a'u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer eu gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.

11 A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a'u tarfai hwynt.

12 A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trwmgwsg ar Abram: ac wele ddychryn,a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.

13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'u gwasanaethant, a hwythau a'u cystuddiant bedwar can mlynedd.

14 A'r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.

15 A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.

16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.

17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod âg Abram, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:

19 Y Ceneaid, a'r Ceneziaid, a'r Cadmoniaid.

20 Yr Hethiaid hefyd, a'r Phereziaid, a'r Rephaimiaid,

21 Yr Amoriaid hefyd, a'r Canaaneaid, a'r Girgasiaid, a'r Jebusiaid.