Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVI.

1 Sarai, yn ammhlantadwy, yn rhoddi Agar i Abram. 6 Agar, wedi ei chystuddio am ddïystyru ei meistres, yn rhedeg i ffordd. 9 Angel yn ei danfon hi yn ei hol i'w darostwng ei hun, 11 ac yn dywedyd iddi am ei mab. 15 Genedigaeth Ismael.

SARAI hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, a'i henw Agar.

2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr ARGLWYDD a luddiodd i mi blanta: dos, attolwg, at fy llaw-forwyn; fe allai y cair i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.

3 A Sarai, gwraig Abram, a gymmerodd ei morwyn Agar yr Aiphtes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a'i rhoddes i Abram ei gwr yn wraig iddo.

4 ¶ Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi o honi, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.

5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i'th fynwes, a hithau a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thi.

6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a'i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.

7 ¶ Ac angel yr ARGLWYDD a'i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:

8 Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.

9 Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylaw hi.

10 Angel yr ARGLWYDD a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhâu yr amlhâf dy had di, fel na rifir ef o lïosowgrwydd.

11 Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr ARGLWYDD a glybu dy gystudd di.

12 Ac efe a fydd ddyn gwŷllt, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig ger bron ei holl frodyr.

13 A hi a alwodd enw yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O DDUW, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?

14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer-lahai-roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.

15 ¶ Ac Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.

16 Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.

PENNOD XVII.

1 Duw yn adnewyddu y cyfammod. 5 Newidio enw Abram, yn arwydd o fendith fwy. 10 Ordeinio enwaedaid. 15 Newidio enw Sarai, a'i bendithio. 16 Addewid o Isaac. 23 Enwaedu ar Abraham ac Ismael.

A PHAN oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.

2 A mi a wnaf fy nghyfammod rhyngof a thi, ac a'th amlhâf di yn aml iawn.

3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd DUW wrtho ef, gan ddywedyd,

4 Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfammod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.

5 A'th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham, canys yn dad llawer o genhedloedd y'th wneuthum.

6 A mi a'th wnaf yn ffrwythlawn iawn, ac a wnaf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.

7 Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â'th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn DDUW i ti, ac i'th had ar dy ol di.

8 A mi a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn DDUW iddynt.

9 ¶ A DUW a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfammod i, ti a'th had ar dy ol, trwy eu hoesoedd.

10 Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a'th had ar dy ol di: enwaedir pob gwrryw o honoch chwi.

11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dïenwaediad: a bydd yn arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau.

12 Pob gwrryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenhedlaethau; yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dïeithr, yr hwn nid yw o'th had di.

13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfammod yn eich cnawd chwi, yn gyfammod tragywyddol.

14 A'r gwrryw dïenwaededig, yr hwn ni enwaeder cnawd ei ddïenwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfammod i.

15 ¶ DUW hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi.

16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab o honi: ïe bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd o honi hi.

17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain?

18 Ac Abraham a ddywedodd wrth DDUW, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di!

19 A DUW a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddïau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhâf fy nghyfammod âg ef yn gyfammod tragywyddol, ac â'i had ar ei ol ef.

20 Am Ismael hefyd y'th wrandewais: wele, mi a'i bendithiais ef, a mi a'i ffrwythlonaf ef, ac a'i llïosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.

21 Eithr fy nghyfammod a gadarnhâf âg Isaac, yr hwn a ymddŵg Sarah i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.

22 Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a DUW a aeth i fynu oddi wrth Abraham.

23 ¶ Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fab, a'r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a'r rhai oll a brynasai efe â'i arian, pob gwrryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dïenwaediad hwynt o fewn corph