Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dydd hwnnw, fel y llefarasai DUW wrtho ef.

24 Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.

25 Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddïenwaediad ef.

26 O fewn corph y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab.

27 A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid âg arian gan neb dïeithr, a enwaedwyd gyd âg ef.

PENNOD XVIII.

Abraham yn derbyn tri angel i'w dŷ. 9 Sarah a geryddir am chwerthin rhyngddi a hi ei hun o ran yr addewid ddïeithr. 17 Duw yn rhybuddio Abraham am ddinystr Sodom. 23 Ac Abraham yn eiriol trostynt.

A'R ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef y'ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, y'ngwres y dydd.

2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwŷr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i'w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tu a'r ddaear,

3 Ac a ddywedodd, Fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg di, na ddos heibio, attolwg, oddi wrth dy was.

4 Cymmerer, attolwg, ychydig ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwyswch dan y pren;

5 Ac mi a ddygaf dammaid o fara, a chryfhêwch eich calon; wedi hynny y cewch fyned ymaith: o herwydd i hynny y daethoch at eich gwas. A hwy a ddywedasant, Gwna felly, fel y dywedaist.

6 Ac Abraham a frysiodd i'r babell at Sarah, ac a ddywedodd, Parottoa ar frys dair phïolaid o flawd peilliaid, tylina, a gwna yn deisennau.

7 Ac Abraham a redodd at y gwartheg, ac a gymmerodd lo tyner a da, ac a'i rhoddodd at y llangc, yr hwn a frysiodd i'w barattôi ef.

8 Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a'r llo a barattoisai efe, ac a'i rhoddes o'u blaen hwynt: ac efe a safodd gyd â hwynt tan y pren; a hwy a fwyttasant.

9 ¶ A hwy a ddywedasant wrtho ef, Mae Sarah dy wraig? Ac efe a ddywedodd, Wele hi yn y babell.

10 Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o'i ol ef.

11 Abraham hefyd a Sarah oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sarah yn ol arfer gwragedd.

12 Am hynny y chwarddodd Sarah rhyngddi a hi ei hun, gan ddywedyd, Ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch, a'm harglwydd yn hen hefyd?

13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, Paham y chwarddodd Sarah fel hyn, gan ddywedyd, A blantaf finnau yn wir, wedi fy heneiddio?

14 A fydd dim yn anhawdd i'r ARGLWYDD? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab fydd i Sarah.

15 A Sarah a wadodd, gan ddywedyd, Ni chwerddais i: oherwydd hi a ofnodd. Yntau a ddywedodd, Nag ê, oblegid ti a chwerddaist.

16 ¶ A'r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edrychasant tu a Sodom: ac Abraham a aeth gyd â hwynt, i'w hanfon hwynt.

17 A'r ARGLWYDD a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?

18 Canys Abraham yn ddïau a fydd yn genhedlaeth fawr a chref, ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaear.

19 Canys mi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr ARGLWYDD, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr ARGLWYDD ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.

20 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Am fod gwaedd Sodom a Gomorrah yn ddirfawr, a'u pechod hwynt yn drwm iawn;

21 Disgynaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ol eu gwaedd a ddaeth attaf fi, y gwnaethant yn hollol: ac onid ê, mynnaf wybod.

22 A'r gwŷr a droisant oddi yno, ac a aethant tu a Sodom: ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr ARGLWYDD.

23 ¶ Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, A ddifethi di y cyfiawn hefyd ynghyd â'r annuwiol?

24 Ond odid y mae deg a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas: a ddifethi di hwynt hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y deg a deugain cyfiawn sydd o'i mewn hi?

25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â'r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?

26 A dywedodd yr ARGLWYDD, Os caf fi yn Sodom ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.

27 Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.

28 Ond odid bydd pump yn eisieu o'r deg a deugain cyfiawn: a ddifethi di yr holl ddinas er pump? Yntau a ddywedodd, Na ddifethaf, os caf yno bump a deugain.

29 Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef etto, ac a ddywedodd, Ond odid cair yno ddeugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf er mwyn y deugain.

30 Ac efe a ddywedodd, O na ddigied fy Arglwydd os llefaraf: Cair yno ond odid ddeg ar hugain. Yntau a ddywedodd, Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.

31 Yna y dywedodd efe, Wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: Ond odid cair yno ugain. Yntau a ddywedodd, Nis difethaf er mwyn ugain.

32 Yna y dywedodd, O na ddigied fy Arglwydd, a llefaraf y waith hon yn unig: Ond odid cair yno ddeg. Yntau a ddywedodd nis difethaf er mwyn deg.

33 A'r ARGLWYDD a aeth ymaith pan ddarfu iddo ymddiddan âg Abraham: ac Abraham a ddychwelodd i'w le ei hun.


PENNOD XIX.

1 Lot yn derbyn angelion i'w dŷ. 4 Taro y Sodomiaid annuwiol â dallineb. 12 Danfon Lot i'r mynydd er mwyn ei ddïogelwch. 18 Yntau yn cael cennad i fyned i Soar. 24 Dinystrio Sodom a Gomorrah. 26 Troi gwraig Lot yn golofn halen. 30 Lot yn trigo mewn ogof. 31 Godinebus fonedd Moab ac Ammon.

A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth