Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ti? mynega i mi, attolwg: a oes lle i ni i lettŷa yn nhŷ dy dad?

24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milcah, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.

25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i lettŷa.

26 A'r gwr a ymgrymmodd, ac a addolodd yr ARGLWYDD.

27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a'i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr ARGLWYDD 'fi i dŷ brodyr fy meistr.

28 A'r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.

29 ¶ Ac i Rebeccah yr oedd brawd, a'i enw Laban: a Laban a redodd at y gwr allan i'r ffynnon.

30 A phan welodd efe y clust-dlws, a'r breichledau am ddwylaw ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeccah ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gwr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gwr; ac wele efe yn sefyll gyd â'r camelod wrth y ffynnon.

31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr ARGLWYDD; paham y sefi di allan? canys mi a barottoais y tŷ, a lle i'r camelod.

32 ¶ A'r gwr a aeth i'r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i'r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd âg ef.

33 A gosodwyd bwyd o'i flaen ef i fwytta; ac efe a ddywedodd, Ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.

34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.

35 A'r ARGLWYDD a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac asynod.

36 Sarah hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i'm meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.

37 A'm meistr a'm tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymmer wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.

38 Ond ti a âi i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymmeri wraig i'm mab.

39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ol i.

4 0 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ARGLWYDD yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd â thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymmeri wraig i'm mab i o'm tylwyth, ac o dŷ fy nhad.

41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.

42 A heddyw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:

43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a'r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, attolwg, ychydig ddwfr i'w yfed o'th ystên;

44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i'th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr ARGLWYDD i fab fy meistr.

45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeccah yn dyfod allan, a'i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i'r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dïoda fi, attolwg.

46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhâf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.

47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milcah iddo ef. Yna y gosodais y clust-dlws wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwylaw hi:

48 Ac a ymgrymmais, ac a addolais yr ARGLWYDD, ac a fendithiais ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr i'w fab ef.

49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â'm meistr, mynegwch i mi: ac onid ê, mynegwch i mi; fel y tröwyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw aswy.

50 Yna yr attebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.

51 Wele Rebeccah o'th flaen; cymmer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i'r ARGLWYDD.

53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a'u rhoddodd i Rebeccah: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i'w brawd hi, ac i'w mam.

54 A hwy a fwyttasant ac a yfasant, efe a'r dynion oedd gyd âg ef, ac a lettyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.

55 Yna y dywedodd ei brawd a'i mam, Triged y llangces gyd â ni ddeng niwrnod o'r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.

56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i'r ARGLWYDD lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.

57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.

58 A hwy a alwasant ar Rebeccah, a dywedasant wrthi, A âi di gyd â'r gwr hwn? A hi a ddywedodd, Af.

59 A hwy a ollyngasant Rebeccah eu chwaer, a'i mamaeth, a gwas Abraham, a'i ddynion;

60 Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.

61 ¶ Yna y cododd Rebeccah, a'i llangcesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ol y gwr; a'r gwas a gymmerodd Rebeccah, ac a aeth ymaith.

62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai-roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y dehau.

63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.

64 Rebeccah hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.

65 Canys hi a ddywedasai