Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth y gwas, Pwy yw y gwr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? A'r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymmerth orchudd, ac a ymwisgodd.

66 A'r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.

67 Ac Isaac a'i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymmerth Rebeccah, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a'i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ol ei fam.

PENNOD XXV.

Plant Abraham o Ceturah. 5 Rhannu ei ddâ ef. 7 Ei oedran a'i farwolaeth. 9 Ei gladdedigaeth. 12 Cenhedlaethau Ismael. 17 Ei oedran a'i farwolaeth. 21 Isaac yn gweddïo dros Rebeccah, yr hon oedd yn ammhlantadwy. 22 Y plant yn ymwthio yn ei chroth hi. 24 Genedigaeth Esau a Jacob. 27 Y rhagor oedd rhyngddynt hwy. 29 Esau yn gwerthu braint ei enedigaeth.

AC Abraham a gymmerodd eilwaith wraig, a'i henw Ceturah.

2 A hi a esgorodd iddo ef Zimran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah.

3 A Jocsan genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lëummim.

4 A meibion Midian oedd Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn oedd feibion Ceturah.

5 ¶ Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.

6 Ac i feibion gordderch-wragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a'u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tu a'r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe etto yn fyw.

7 A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thri ugain.

8 Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.

9 Ac Isaac ac Ismael ei feibion a'i claddasant ef yn ogof Machpelah, ym maes Ephron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;

10 Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.

11 ¶ Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i DDUW fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.

12 ¶ A dyma genhedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Aiphtes, morwyn Sara, i Abraham.

13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenhedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,

14 Misma hefyd, a Dumah, a Massa,

15 Hadar, a Themah, Jetur, Nephis, a Chedemah.

16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll: yn ddeuddeg o dywysogion yn ol eu cenhedloedd.

17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.

18 Preswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aipht, ffordd yr âi di i Assyria: ac y'ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.

19 ¶ A dyma genhedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.

20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymmerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.

21 Ac Isaac a weddïodd ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy, a'r ARGLWYDD a wrandawodd arno ef, a Rebeccah ei wraig ef a feichiogodd.

22 A'r plant a ymwthiasant â'u gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedddd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD.

23 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di; a'r naill bobl fydd cryfach na'r llall, a'r hynaf a wasanaetha'r ieuangaf.

24 ¶ A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.

25 A'r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.

26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab tri ugeinmlwydd pan anwyd hwynt.

27 A'r llangciau a gynnyddasant: ac Esau oedd wr yn medru hela, a gwr o'r maes, a Jacob oedd wr disyml, yn cyfanneddu mewn pebyll.

28 Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwytta o'i helwriaeth ef: a Rebecca a hoffai Jacob.

29 ¶ A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.

30 A dywedodd Esau wrth Jacob, Gâd i mi yfed, attolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

31 A dywedodd Jacob, Gwerth di heddyw i mi dy enedigaeth-fraint.

32 A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha lês a wna yr enedigaeth-fraint hon i mi?

33 A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.

34 A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y dïystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.


PENNOD XXVI.

Isaac o achos newyn yn myned i Gerar. 2 Duw yn ei addysgu ac yn ei fenditihio ef. 7 Abimelech yn ei geryddu ef am wadu ei wraig. 12 Efe yn myned yn gyfoethog: 18 Yn cloddio ffynnon Esec, Sitnah, a Rehoboth. 26 Abimelech yn gwneuthur cynghrair âg ef yn Beer-seba. 34 Gwragedd Esau.

A BU newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenhin y Philistiaid i Gerar.

2 A'r ARGLWYDD a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i'r Aipht: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.

3 Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a'th fendithiaf; o herwydd i ti ac i'th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.

4 A mi a amlhâf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i'th had di yr holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:

5 Am wrandaw o Abraham ar fy llais i, a