Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chadw fy nghadwriaeth, fy ngorchymynion, fy neddfau, a'm cyfreithiau.

6 ¶ Ac Isaac a drigodd yn Gerar.

7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi; canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeccah: canys yr ydoedd hi yn dêg yr olwg.

8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenhin y Philistiaid edrych trwy y ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeccah ei wraig.

9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddïau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd o honof, Rhag fy marw o'i phlegid hi.

10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyd â'th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.

11 A gorchymynnodd Abimelech i'r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â'r gwr hwn, neu â'i wraig, a leddir yn farw.

12 Ac Isaac a hauodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymmaint. A'r ARGLWYDD a'i bendithiodd ef.

13 A'r gwr a gynnyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.

14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a'r Philistiaid a genfigennasant wrtho ef.

15 A'r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a'u cauasant hwy, ac a'u llanwasant â phridd.

16 Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.

17 ¶ Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.

18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gauasai y Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ol yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.

19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.

20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; o herwydd ymgynhennu o honynt âg ef.

21 Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw; ac efe a alwodd ei enw ef Sitnah.

22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr ARGLWYDD arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.

23 Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Beer-seba.

24 A'r ARGLWYDD a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw DUW Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a'th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.

25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr ARGLWYDD; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.

26 ¶ Yna y daeth Abimelech atto ef o Gerar, ac Ahuzzath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.

27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi attaf fi; gan i chwi fy nghasâu, a'm gyrru oddi wrthych?

28 Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr ARGLWYDD gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;

29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y'th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr ARGLWYDD.

30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwyttasant ac a yfasant.

31 Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i'w gilydd: ac Isaac a'u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

32 A'r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.

33 Ac efe a'i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer-seba hyd y dydd hwn.

34 ¶ Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.

35 A hwy oeddynt chwerwder yspryd i Isaac ac i Rebeccah.

{{C|PENNOD XXVII.

Isaac yn anfon Esau am helwriaeth. 6 Rebeccah yn dysgu Jacob i gael y fendith. 15 Jacob yn rhith Esau yn ei chaffael. 30 Esau yn dwyn ei saig. 33 Isaac yn dychrynu. 34 Esau yn cwynofain, a thrwy daerni yn caffael bendith. 41 Yn bygwth Jacob. 4 2 Rebeccah yn ei siommi ef.

A BU, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw o hono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.

2 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.

3 Ac yn awr cymmer, attolwg, dy offer, dy gawell saethau, a'th fwa, a dos allan i'r maes, a hela i mi helfa.

4 A gwna i mi flasus-fwyd o'r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwyttâwyf; fel y'th fendithio fy enaid cyn fy marw.

5 A Rebeccah a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i'r maes, i hela helfa i'w dwyn.

6 ¶ A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,

7 Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasus-fwyd, fel y bwyttâwyf, ac y'th fendithiwyf ger bron yr ARGLWYDD cyn fy marw.

8 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchymynnaf i ti.

9 Dos yn awr i'r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fynn gafr da; a mi a'u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i'th dad, o'r fath a gâr efe.

10 A thi a'u dygi i'th dad, fel y bwyttao, ac y'th fendithio cyn ei farw.

11 A dywedodd Jacob wrth Rebeccah ei fam, Wele, Esau fy mrawd yn wr blewog, a minnau yn wr llyfn:

12 Fy nhad, ond odid, a'm teimla; yna