Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felldith, ac nid bendith.

13 A'i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felldith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.

14 Ac efe a aeth, ac a gymmerth y mynnod, ac a'u dygodd at ei fam: a'i fam a wnaeth fwyd blasus o'r fath a garai ei dad ef.

15 Rebeccah hefyd a gymmerodd hoff-wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyd â hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf.

16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylaw ef, ac am lyfndra ei wddf ef:

17 Ac a roddes y bwyd blasus, a'r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.

18 ¶ Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?

19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf-anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, attolwg, eistedd, a bwyta o'm helfa, fel y'm bendithio dy enaid.

20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Yntau a ddywedodd, Am i'r ARGLWYDD dy DDUW beri iddo ddigwyddo o'm blaen.

21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nês yn awr, fel y'th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad ê.

22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a'i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a'r dwylaw, dwylaw Esau ydynt.

23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylaw fel dwylaw ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a'i bendithiodd ef.

24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.

25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nês attaf fi, a mi a fwyttâf o helfa fy mab, fel y'th fendithio fy enaid. Yna y dug atto ef, ac efe a fwyttaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.

26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nês yn awr, a chusana fi, fy mab.

27 Yna y daeth efe yn nês, ac a'i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr ARGLWYDD.

28 A rhodded DUW i ti o wlith y nefoedd, ac o frasder y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:

29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedig fyddo a'th felldithio, a bendigedig a'th fendithio.

30 ¶ A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o'i hela.

31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a'i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwyttâed o helfa ei fab, fel y'm bendithio dy enaid.

32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf-anedig Esau.

33 Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a'i dug i mi, a mi a fwytteais o'r cwbl cyn dy ddyfod, ac a'i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.

34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ïe finnau, fy nhad.

35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.

36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a'm disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth-fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyd â thi fendith i minnau?

37 Ac Isaac a attebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a'i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; âg ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnafi tithau, fy mab, weithian?

38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

39 Yna yr attebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mrasder y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ym mysg gwlith y nefoedd oddi uchod;

40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a'th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41 ¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â'r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.

42 A mynegwyd i Rebeccah eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o'th blegid di, ar fedr dy ladd di.

43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;

44 Ac aros gyd âg ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;

45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio o hono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y'th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad o honoch eich dau mewn un dydd?

46 Dywedodd Rebeccah hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes o herwydd merched Heth: os cymmer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwennychwn fy einioes?

PENNOD XXVIII.

Isaac yn bendithio Jacob, ac yn ei anfon ef i Mesopotamia. 9 Esau yn prïodi Mahalath merch Ismael. 12 Gweledigaeth ysgol Jacob. 18 Maen Bethel. 20 Adduned Jacob.

YNA y galwodd Isaac ar Jacob, ac a'i bendithiodd ef: efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymmer wraig o ferched Canaan.

2 Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymmer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:

3 A DUW Hollalluog a'th fendithio, ac a'th ffrwythlono, ac a'th lïosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd:

4 Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i'th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd DUW i Abraham.

5 Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.