Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6 ¶ Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a'i anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymmer wraig o ferched Canaan;

7 A gwrandaw o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a'i fyned i Mesopotamia;

8 Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan y'ngolwg Isaac ei dad;

9 Yna Esau a aeth at Ismael, ac gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.

10 ¶ A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tu a Haran.

11 Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a lettŷodd yno dros nos; oblegid machludo yr haul: ac efe a gymmerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.

12 Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddyd i'r nefoedd: ac wele angelion DUW yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.

13 Ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw ARGLWYDD DDUW Abraham dy dad, a DUW Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i'th had.

14 A'th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i'r gorllewin, ac i'r dwyrain, ac i'r gogledd, ac i'r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.

15 Ac wele fi gyd â thi; ac mi a'th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon: o herwydd ni'th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.

16 ¶ A Jacob a ddeffrôdd o'i gwsg; ac a ddywedodd, Dïau fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.

17 Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma onid tŷ i DDUW, a dyma borth y nefoedd.

18 A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymmerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.

19 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Luz fuasai enw y ddinas o'r cyntaf.

20 Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyd â myfi, ac a'm ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i'w fwytta, a dillad i'w gwisgo,

21 A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr ARGLWYDD yn DDUW i mi.

22 A'r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ DDUW; ac o'r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a'i degymmaf i ti.

    1. kkk #

PENNOD XXIX.

Jacob yn dyfod at ffynnon Haran. 9 Yn ymgaredigo â Rahel. 13 Laban yn ei groesawn ef i'w dŷ. 18 Jacob yn gwneuthur ammod am Rahel. 23 Ei siommi ef â Leah. 28 Yntau yn prïodi Rahel, ac yn gwasanaethu am dani hi saith mlynedd eraill. 32 Leah yn dwyn Reuben, 33 Simeon, 34 Lefi, 35 a Judah.

A JACOB a gymmerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.

2 Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair dïadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhâent y dïadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau y pydew.

3 Ac yno y cesglid yr holl ddïadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhâent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau y pydew yn ei lle.

4 A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.

6 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd â'r defaid.

7 Yna y dywedodd efe, Wele etto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu yr anifeiliaid: dyfrhêwch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.

8 A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddïadelloedd, a threiglo o honynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhâwn y praidd.

9 ¶ Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyd â'r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.

10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.

11 A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeccah oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i'w thad.

13 A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cusanodd, ac a'i dug ef i'w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.

14 A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddïau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gyd âg ef fis o ddyddiau.

15 ¶ A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y'm gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?

16 Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Leah, ac enw yr ieuangaf Rahel.

17 A llygaid Leah oedd weiniaid; ond Rahel oedd dêg ei phryd, a glandeg yr olwg.

18 A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a'th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.

19 A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na'i rhoddi i wr arall; aros gyd â mi.

20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.

21 ¶ A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf atti hi.

22 A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.

23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymmeryd Leah ei ferch, a'i dwyn hi atto ef; ac yntau a aeth atti hi.

24 A Laban a roddodd iddi Zilpah ei forwyn, yn forwyn i Leah ei ferch.

25 A bu, y bore, wele Leah oedd hi: yna y