Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

11 Achub fi, attolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod o hono a'm taro, a'r fam gyd â'r plant.

12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a'th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13 ¶ Ac yno y llettŷodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymmerth efe anrheg i'w frawd Esau;

14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,

15 Deg ar hugain o gamelod blithion a'u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asenod, a deg o ebolion.

16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyrr o'r neilldu: ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyrr a'i gilydd.

17 Ac efe a orchymynodd i'r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr âi? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?

18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i'm harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hol ni.

19 Felly y gorchymynnodd hefyd i'r ail, ac i'r trydydd, ac i'r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.

20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid, eb efe, boddlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.

21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a lettŷodd y noson honno yn y gwersyll.

22 Ac efe a gyfododd y noson honno, a gymmerth ei ddwy wragedd, a'i ddwy law-forwyn, a'i un mab ar ddeg, ac a aeth dros rŷd Jabboc.

23 Ac a'u cymmerth hwynt, ac a'u trosglwyddodd trwy yr afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.

24 ¶ A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gwr âg ef nes codi y wawr.

25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chysswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cysswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech o hono âg ef.

26 A'r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a attebodd, Ni'th ollyngaf, oni'm bendithi.

27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a attebodd, Jacob.

28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyd â Duw fel tywysog, a chyd â dynion, ac a orchfygaist.

29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, attolwg, dy enw. Ac yntau a attebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a'i bendithiodd ef.

30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dïangodd fy einioes.

31 A'r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o'i glun.

32 Am hynny plant Israel ni fwyttânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cysswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chysswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.

Pennod XXXIII.

Caredigrwydd Jacob ac Esau wrth gyfarfod. 17 Jacob yn dyfod i Succoth; 18 yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a'i henwi El-Elohe-Israel.

A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.

2 Ac ym mlaen y gosododd efe y ddwy law-forwyn, a'u plant hwy, a Leah a'i phlant hithau yn ol y rhai hynny, a Rahel a Joseph yn olaf.

3 Ac yntau a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

4 Ac Esau a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd ef: a hwy a wylasant.

5 Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu y gwragedd, a'r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o'i ras i'th was di.

6 Yna y llaw-forwynion a nesasant, hwynt-hwy a'u plant, ac a ymgrymmasant.

7 A Leah a nesaodd a'i phlant hithau, ac a ymgrymamsant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymmasant.

8 Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai accw a gyfarfum i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

9 Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.

10 A Jacob a ddywedodd, Nag ê; attolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymmer fy anrheg o'm llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn foddlawn i mi.

11 Cymmer, attolwg, fy mendith, yr hon a ddygpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslawn i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymmerodd;

12 Ac a ddywedodd, Cychwynwn, ac awn: a mi a âf o'th flaen di.

13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a'r gwartheg blithion gyd â myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd.

14 Aed, attolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo yr anifeiliaid sydd o'm blaen i, ac y gallo y plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyd â thi rai o'r bobl sydd gyd â mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Cafwyf ffafr y'ngolwg fy arglwydd.

16 ¶ Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

18 ¶ Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd y'ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

19 Ac a brynodd ran o'r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gàn darn o arian:

20 Ac a osododd yno allor, ac a'i henwodd El-Elohe-Israel.