Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennod XXXIV.

Sichem yn treisio Dinah: 4 yn ei gofyn hi yn brïod. 13 Meibion Jacob yn cynnyg i'r Sichemiaid ammod yr enwaediad. 20 Hemor a Sichem yn eiriol arnynt am ei dderbyn. 25 Meibion Jacob ar y fantais honno yn eu lladd hwynt, 27 ac yn yspeilio eu dinas. 30 Jacob yn ceryddu Simeon a Lefi.

A Dinah merch Leah, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.

2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a'i canfu hi, ac a'i cymmerth hi, ac a orweddodd gyd â hi, ac a'i treisiodd.

3 A'i enaid ef a lynodd wrth Dinah merch Jacob, ïe, efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llangces.

4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymmer y llangces hon yn wraig i mi.

5 A Jacob a glybu i Sichem halogi Dinah ei ferch: (a'i feibion ef oedd gyd â'i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.

6 ¶ A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan âg ef.

7 A meibion Jacob a ddaethant o'r maes, wedi clywed o honynt; a'r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd â merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.

8 A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, attolwg, yn wraig iddo ef.

9 Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.

10 A chwi a gewch breswylio gyd â ni, a'r wlad fydd o'ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.

11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Cafwyf ffafr yn eich golwg, a'r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.

12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynnysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.

13 A meibion Jacob a attebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, o herwydd iddo ef halogi Dinah eu chwaer hwynt;

14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i wr dïenwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.

15 Ond yn hyn y cyttunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwrryw i chwi;

16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd-drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.

17 Ond oni wrandêwch arnom ni i'ch enwaedu; yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ymaith.

18 A'u geiriau hwynt oedd dda y'ngolwg Hemor, ac y'ngolwg Sichem mab Hemor.

19 Ac nid oedodd y llangc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.

20 ¶ A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,

21 Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyd â ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu negesau ynddi: a'r wlad, wele, sydd ddigon ehang iddynt hwy: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.

22 Ond yn hyn y cyttuna y dynion â ni, i drigo gyd â ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwrryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.

23 Eu hanifeiliaid hwynt, a'u cyfoeth hwynt, a'u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddo ni fyddant hwy? yn unig cyttunwn â hwynt, a hwy a drigant gyd â ni.

24 Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a'r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwrtyw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

25 ¶ A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dinah, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwrryw.

26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymmerasant Dinah o dŷ Sichem, ac a aethant allan.

27 Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.

28 Cymmerasant eu defaid hwynt, a'u gwartheg, a'u hasynod hwynt, a'r hyn oedd yn y ddinas, a'r hyn oedd yn y maes,

29 A'u holl gyfoeth hwynt; a'u holl rai bychain, a'u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac yspeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.

30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid, a'r Phereziaid: a minnau yn ychydig o nifer; a hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a'm tŷ.

31 Hwythau a attebasant, Ai megis puttain y gwnae efe ein chwaer ni?

Pennod XXXV.

Duw yn anfon Jacob i Bethel. 2 Mae efe yn glanhâu ei dŷ o ddelwau; 6 yn adeiladu allor yn Bethel. 8 Deborah yn marw yn Alhon-bacuth. 9 Duw yn bendithio Jacob yn Bethel. 16 Rahel, wrth esgor ar Benjamin, yn marw ar y ffordd i Edar. 22 Reuben yn gorwedd gyd â Bilhah. 23 Meibion Jacob. 27 Jacob yn dyfod at Isaac i Hebron. 28 Oedran, marwolaeth, a chladdedigaeth Isaac.

1}} A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.

2 Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gyd âg ef, Bwriwch ymaith y duwiau dïeithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhêwch, a newidiwch eich dillad;

3 A chyfodwn, ac esgynwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyd â myfi yn y ffordd a gerddais.

4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dïeithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a'r clust-dlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a'u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.