5 A hwy a gychwynasant: ac ofn DUW oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Jacob.
6 ¶ A Jacob a ddaeth i Luz, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a'r holl bobl y rhai oedd gyd âg ef;
7 Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El-bethel, oblegid yno yr ymddangosasai DUW iddo ef, pan ffoisai efe o ŵydd ei frawd.
8 A marw a wnaeth Deborah mamaeth Rebeccah; a hi a gladdwyd îs law Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon-bacuth.
9 ¶ Hefyd DUW a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a'i bendithiodd ef.
10 A DUW a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.
11 Hefyd DUW a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog: cynnydda, ac amlhâ; cenedl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di.
12 A'r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i'th had ar dy ol di y rhoddaf y wlad.
13 A DUW a esgynodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho.
14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe âg ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddïod-offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd DUW âg ef, Bethel.
16 ¶ A hwy a aethant ymaith o Bethel, ac yr oedd etto megis milltir o dir i ddyfod i Ephrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor.
17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i'r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab.
18 Darfu hefyd, wrth ymadael o'i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben-oni: ond ei dad a'i henwodd ef Benjamin.
19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem.
20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddyw.
21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o'r tu hwnt i Migdal-Edar.
22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyd â Bilhah gordderch-wraig ei dad, a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg.
23 Meibion Leah; Reuben, cyntaf-anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Zabulon.
24 Meibion Rahel; Joseph, a Benjamin.
25 A meibion Bilhah, llaw-forwyn Rahel; Dan, a Naphtali.
26 A meibion Zilpah, llaw-forwyn Leah; Gad, ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.
27 ¶ A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer-Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac.
28 A dyddiau Isaac oedd gàn mlynedd a phedwar ugain mlynedd.
29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a'i feibion, Esau a Jacob, a'i claddasant ef.
PENNOD XXXVI.
Tair gwragedd Esau. 6 Ei symmudiad ef i fynydd Seir. 9 Ei feibion. 15 Y duciaid a ddaethant o'i feibion ef. 20 Meibion a duciaid Seir. 24 Anah yn cael mulod. 31 Brenhinoedd Edom. 40 Y duciaid a ddaethant o Esau.
A DYMA genhedlaethau Esau: efe yw Edom.
2 Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan; Adah, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibamah, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;
3 Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.
4 Ac Adah a ymddûg Eliphaz i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.
5 Aholibamah hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo y'ngwlad Canaan.
6 Ac Esau a gymmerodd ei wragedd, a'i feibion, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl ysgrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasai efe y'ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i'r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
7 Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd-drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.
8 Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
9 ¶ A dyma genhedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.
10 Dyma enwau meibion Esau: Eliphaz, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.
11 A meibion Eliphaz oedd Teman, Omar, Sepho, a Gatam, a Chenaz.
12 A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphaz, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliphaz: dyma feibion Ada gwraig Esau.
13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Zerah, Sammah a Mizzah: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.
14 ¶ Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon, gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chorah.
15 ¶ Dyma dduciaid o feibion Esau; meibion Eliphaz cyntaf-anedig Esau, duc Teman, duc Omar, duc Seffo, duc Cenaz,
16 Duc Cora, duc Gatam, duc Amalec: dyma y duciaid o Eliphaz, y'ngwlad Edom: dyma feibion Adah.
17 ¶ A dyma feibion Reuel mab Esau; duc Nahath, duc Zerah, duc Sammah, duc Mizzah: dyma y duciaid o Reuel, y'ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.
18 ¶ Dyma hefyd feibion Aholibamah gwraig Esau: duc Jeus, duc Jalam, duc Corah; dyma y duciaid o Aholibamah, merch Anah, gwraig Esau.
19 Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu duciaid hwynt.
20 ¶ Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanneddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Anah,
21 A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma dduciaid yr Horiaid, meibion Seir, y'ngwlad Edom.
22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.
23 A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.
24 A dyma feibion Sibeon; Aiah, ac Anah: