Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?

27 Deuwch, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, oblegid ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe. A'i frodyr a gyttunasant.

28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynnasant ac y cyfodasant Joseph i fynu o'r pydew, ac a werthasant Joseph i'r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseph i'r Aipht.

29 ¶ A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;

30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llangc nid yw accw; a minnau, i ba le yr âf fi?

31 A hwy a gymmerasant siacced Joseph, ac a laddasant fỳn gafr, ac a drochasant y siacced yn y gwaed.

32 Ac a anfonasant y siacced fraith, ac a'i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siacced dy fab yw hi, ai nad ê.

33 Yntau a'i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siacced fy mab yw hi; bwystfil drwg a'i bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseph.

34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.

35 A'i holl feibion, a'i holl ferched, a godasant i'w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymmeryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddïau disgynaf yn alarus at fy mab i'r beddrod: a'i dad a wylodd am dano ef.

36 A'r Midianiaid a'i gwerthasant ef i'r Aipht, i Putiphar tywysog Pharaoh, a'r distain.

PENNOD XXXVIII.

Judah yn cenhedlu Er, Onan, a Selah. 6 Er yn prïodi Tamar. 8 Camwedd Onan. 11 Tamar yn aros am Selah: 16 yn sïommi Judah, 27 ac yn dwyn gefelliaid, Phares a Zarah.

AC yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Judah fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at wr o Adùlam, a'i enw Hirah.

2 Ac yno y canfu Judah ferch gwr o Canaan, a'i enw ef oedd Suah; ac a'i cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.

3 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Er.

4 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.

5 A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Selah. Ac yn Cezib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.

6 A Judah a gymmerth wraig i Er ei gyntaf-anedig, a'i henw Tamar.

7 Ac yr oedd Er, cyntaf-anedig Judah, yn ddrygionus y'ngolwg yr ARGLWYDD; a'r ARGLWYDD a'i lladdodd ef.

8 A Judah a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrïoda hi, a chyfod had i'th frawd.

9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai yr had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi o hono had i'w frawd.

10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe y'ngolwg yr ARGLWYDD: am hynny efe a'i lladdodd yntau.

11 Yna Judah a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynnyddo fy mab Selah: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigiodd yn nhŷ ei thad.

12 ¶ Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Suah, gwraig Judah: a Judah a gymmerth gysur, ac a aeth i fynu i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a'i gyfaill Hirah yr Adùlamiad.

13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o bryd, a glân yr olwg. myned i fynu i Timnath, i gneifio ei ddefaid.

14 Hithau a ddïosgodd ddillad ei gweddwdod oddi am dani, ac a'i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

15 A Judah a'i canfu hi, ac a dybiodd mai puttain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.

16 Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, attolwg, gâd i mi ddyfod attat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cai ddyfod attaf?

17 Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fỳn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?

18 Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a'th freichledau, a'th ffon sydd yn dy law. Ac efe a'u rhoddes iddi, ac a aeth atti; a hi a feichiogodd o hono ef.

19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith ac a ddïosgodd ei gorchudd oddi am dani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.

20 A Judah a hebryngodd fỳn gafr yn llaw yr Adùlamiad ei gyfaill, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.

21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y buttain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.

22 Ac efe a ddychwelodd at Judah ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un buttain.

23 A Judah a ddywedodd, Cymmered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y mỳn hwn, a thithau ni chefaist hi.

24 ¶ Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Judah, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a butteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Judah, Dygwch hi allan, a llosger hi.

25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O'r gwr bïau'r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, attolwg, eiddo pwy yw y sêl, a'r breichledau, a'r ffon yma.

26 A Judah a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi, o herwydd na roddais hi i'm mab Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.

27 ¶ Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.

28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a'r fydwraig a gymmerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hol, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid