Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y torriad hwn arnat ti, am hynny y galwyd ei enw ef Phares.

30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Zarah.

Pennod XXXIX.

1 Codiad Joseph yn nhŷ Putiphar. 7 Ei festres yn ei demtio ef, ac yntau yn ei gwrthwynebu hi. 13 Achwyn arno ef ar gam. 19 Ei fwrw ef y'ngharchar; 21 a Duw gyd âg ef yno.

A JOSEPH a ddygwyd i waered i'r Aipht: a Putiphar yr Aiphtwr, tywysog Pharaoh a'i ddistain, a'i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a'i dygasant ef i waered yno.

2 Ac yr oedd yr ARGLWYDD gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.

3 A'i feistr a welodd fod yr ARGLWYDD gyd âg ef, a bod yr ARGLWYDD yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.

4 A Joseph a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a'i gwasanaethodd ef: yntau a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i'r ARGLWYDD fendithio tŷ yr Aiphtiad, er mwyn Joseph: ac yr oedd bendith yr ARGLWYDD ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.

6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseph; ac ni wyddai oddi wrth ddim a'r a oedd gyd âg ef, oddi eithr y bwyd yr oedd 7 ¶ A darfu wedi y pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseph, a dywedyd, Gorwedd gyd â mi.

8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i.

9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn DUW!

10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseph beunydd, ac yntau heb wrandaw arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd â hi.

11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseph ddyfod i'r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12 Hithau a'i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyd â mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan.

13 A phan welodd hi adael o hono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi o hono allan;

14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i'n gwaradwyddo: daeth attaf fi i orwedd gyd â myfi, minnau a waeddais â llef uchel;

15 A phan glywodd efe ddyrchafu o honof fi fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan.

16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrëwas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth attaf i'm gwaradwyddo;

18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan.

19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi, yna yr ennynodd ei lid ef.

20 A meistr Joseph a'i cymerth ef, ac a'i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.

21 ¶ Ond yr ARGLWYDD oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y'ngolwg pennaeth y carchardy.

22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseph yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.

23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr ARGLWYDD gyd âg ef; a'r hyn a wnai efe, yr ARGLWYDD a'i llwyddai.


PENNOD XL.

Bwtler a phobydd Pharaoh y'ngharchar, 4 dan siars Joseph. 5 Efe yn deongli eu breuddwydion hwy; 20 a'r rhai hynny yn dyfod i ben yn ol ei ddehongliad ef. 25 Annïolchgarwch y bwtler.

A DARFU wedi'r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aipht, a'r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aipht.

2 A Pharaoh a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a'r pen-pobydd:

3 Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseph yn rhwym.

4 A'r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy; ac efe a'u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

5 ¶ A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

6 A'r bore y daeth Joseph attynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharaoh, y rhai oedd gyd âg ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddyw?

8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.

9 A'r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;

10 Ac yn y winwydden yr oedd tair caingc: ac yr oedd hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorrasai allan, ei grawn-sypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

11 Hefyd yr oedd cwppan Pharaoh yn fy llaw: a chymmerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwppan Pharaoh; a rhoddais y cwppan yn llaw Pharaoh.

12 A Joseph a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tair caingc.

13 O fewn tri diwrnod etto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a'th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwppan Pharaoh yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo.