Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

14 Etto cofia fi gyd â thi, pan fo daioni i ti, a gwna, attolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharaoh, a dwg fi allan o'r tŷ hwn:

15 Oblegid yn lladrad y'm lladrattâwyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi y'ngharchar.

16 Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseph, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.

17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharaoh o waith pobydd; a'r ehediaid yn eu bwytta hwynt o'r cawell oddi ar fy mhen.

18 A Joseph a attebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.

19 O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a'th groga di ar bren; a'r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat.

20 ¶ Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharaoh: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a'r pen-pobydd ymysg ei weision.

21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwppan i law Pharaoh.

22 A'r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehonglasai Joseph iddynt hwy.

23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseph, eithr anghofiodd ef.

PENNOD XLI.

Dau freuddwyd Pharaoh. 25 Joseph yn eu dehongli hwy: 33 yn rhoddi cynghor i Pharaoh, 38 Codiad Joseph. 50 Mae efe yn cenhedlu Manassh ac Ephraim. 54 Y newyn yn dechreu.

YNA ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.

2 Ac wele, yn esgyn o'r afon, saith o wartheg teg yr olwg, a thewion o gig; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

3 Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt o'r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar làn yr afon.

4 A'r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwyttasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharaoh.

5 Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.

6 Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hol hwynt.

7 A'r tywysennau teneuon a lyngcasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharaoh; ac wele breuddwyd oedd.

8 A'r bore y bu i'w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht a'i holl ddoethion hi: a Pharaoh a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a'u dehonglai hwynt i Pharaoh.

9 ¶ Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharaoh, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.

10 Llidio a wnaethai Pharaoh wrth ei weision; ac efe a'm rhoddes mewn carchar yn nhŷ y distain, myfi a'r pen-pobydd.

11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.

12 Ac yr oedd yno gyd â nyni fab ieuangc o Hebread, gwas i'r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ol ei freuddwyd y dehonglodd efe.

13 A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i'm swydd; ac yntau a grogodd efe.

14 ¶ Pharaoh, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseph: hwythau ar redeg a'i cyrchasant ef o'r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharaoh.

15 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y medri ddeall breuddwyd i'w ddehongli.

16 A Joseph a attebodd Pharaoh, gan ddywedyd, Nid myfi; DUW a ettyb lwyddiant i Pharaoh.

17 A Pharaoh a ddywedodd wrth Joseph, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

18 Ac wele yn esgyn o'r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd-dir y porent.

19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hol hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dir yr Aipht.

20 A'r gwartheg culion a drwg a fwyttasant y saith muwch tewion cyntaf:

21 Ac er eu myned i'w boliau, ni wyddid iddynt fyned i'w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.

22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg, yn cyfodi o'r un gorsen.

23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hol hwynt.

24 A'r tywysenau teneuon a lyngcasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a'i dehonglai i mi.

25 ¶ A dywedodd Joseph wrth Pharaoh, Breuddwyd Pharaoh sydd un: yr hyn y mae DUW yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharaoh.

26 Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.

27 Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyrein-wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

28 Hyn yw'r peth a ddywedais i wrth Pharaoh: Yr hyn a wna DUW, efe a'i dangasodd i Pharaoh.

29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aipht.

30 Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a'r newyn a ddifetha y wlad.

31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, o herwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

32 Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharaoh ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhâu y peth gan DDUW, a bod DUW yn brysio i'w wneuthur.

33 Yn awr, gan hynny, edryched Pharaoh