Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am wr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aipht.

34 Gwnaed Pharaoh hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymmered bummed ran cnwd gwlad yr Aipht dros saith mlynedd yr amldra.

35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharaoh, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

36 A bydded yr ymborth y'nghadw i'r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant y'ngwlad yr Aipht, fel na ddifether y wlad gan y newyn.

37 ¶ A'r peth oedd dda y'ngolwg Pharaoh, ac y'ngolwg ei holl weision.

38 A dywedodd Pharaoh wrth ei weision, A gaem ni wr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd DUW ynddo?

39 Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Gan wneuthur o DDUW i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.

40 Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrn-gadair yn unig y byddaf fwy na thydi.

41 Yna y dywedodd Pharaoh wrth Joseph, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aipht.

42 A thynnodd Pharaoh ei fodrwy oddi ar ei law, ac a'i rhoddes hi ar law Joseph, ac a'i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef,

43 Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail cerbyd oedd ganddo; a llefwyd o'i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.

44 Dywedodd Pharaoh hefyd wrth Joseph, Myfi yw Pharaoh, ac hebot ti ni chyfyd gwr ei law na'i droed, trwy holl wlad yr Aipht.

45 A Pharaoh a alwodd enw Joseph, Saphnath-Paaneah; ac a roddes iddo Asnath, merch Potipherah offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseph allan dros wlad yr Aipht.

46 ¶ A Joseph ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharaoh brenhin yr Aipht: a Joseph a aeth allan o ŵydd Pharaoh, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aipht.

47 A'r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.

48 Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu y'ngwlad yr Aipht, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.

49 A Joseph a gynhullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra llïosog, hyd oni pheidiodd â'i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.

50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseph ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potipherah offeiriad On, iddo ef.

51 A Joseph a alwodd enw ei gyntaf-anedig, Manasseh: Oblegid, eb efe DUW a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.

52 Ac efe a alwodd enw yr ail, Ephraim: Oblegid, eb efe, DUW a'm ffrwythlonodd i y'ngwlad fy ngorthrymder.

53 ¶ Darfu y saith mlynedd o amldra, y rhai a fu y'ngwlad yr Aipht.

54 A'r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.

55 A phan newynodd holl wlad yr Aipht, y bobl a waeddodd ar Pharaoh am fara: a Pharaoh a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, Ewch at Joseph; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseph a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i'r Aiphtiaid; oblegid y newyn oedd drwm y'ngwlad yr Aipht.

57 A daeth yr holl wledydd i'r Aipht at Joseph i brynu; o herwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

PENNOD XLII.

Jacob yn anfon ei ddeg mab i'r Aipht i brynu ŷd. 6 Joseph yn eu carcharu hwy yn lle ysbïwyr: 18 ac yn eu rhyddhâu hwy, dan ammod iddynt ddwyn Benjamin. 21 Eu cydwybod yn eu cyhuddo hwy o achos Joseph. 24 Cadw Simeon yn wystl. 25 Hwynt yn dychwelyd âg ŷd, a'u harian yn eu sachau: 29 ac yn traethu y newyddion i Jacob. 36 Jacob yn gwrthod danfon Benjamin.

PAN welodd Jacob fod ŷd yn yr Aipht, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?

2 Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aipht: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

3 ¶ A deg brawd Joseph a aethant i waered, i brynu ŷd, i'r Aipht.

4 Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseph, gyd â'i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.

5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ym mhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn y'ngwlad Canaan.

6 A Joseph oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

7 A Joseph a ganfu ei frodyr, ac a'u hadnabu hwynt, ac a ymddïeithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a attebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.

8 A Joseph oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

9 A Joseph a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe am danynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nag ê, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

11 Nyni oll ydym feibion un gwr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

12 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nag ê; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

13 Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeng mrodyr, meibion un gwr y'ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddyw gyd â'n tad ni, a'r llall nid yw fyw.

14 A Joseph a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

15 Wrth hyn y'ch profir: Myn einioes Pharaoh, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o'ch brawd ieuangaf yma.

16 Hebryngwch un o honoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid ê, myn einioes Pharaoh, ysbïwyr yn ddïau ydych chwi.

17 Ac efe a'u rhoddodd hwynt i gyd y'ngharchar dridiau.