Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseph wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni DUW yr wyf fi.

19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o'ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i'ch tylwyth.

20 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

21 ¶ Ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Dïau bechu o honom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

22 A Reuben a'u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynir ei waed ef.

23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseph yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24 Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25 ¶ Joseph hefyd a orchymynodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un o honynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i'w fwytta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.

27 Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y lletty; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt y'ngenau ei ffettan ef.

28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth DUW i ni hyn?

29 ¶ A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

30 Dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymmerth ni fel ysbïwyr y wlad.

31 Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.

32 Deuddeg o frodyr oeddym ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyd â'n tad ni y'ngwlad Canaan.

33 A dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadêwch gyd â myfi un o'ch brodyr, a chymmerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

34 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta yn y wlad.

35 ¶ Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a'u tad, ofni a wnaethant.

36 A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseph nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

37 A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a'i dygaf ef attat ti eilwaith.

38 Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyd â chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.

PENNOD XLIII.

Jacob yn flin ganddo ollwng Benjamin. 15 Joseph yn croesawu ei frodyr. 31 Yn gwneuthur iddynt wledd.

A'R newyn oedd drwm yn y wlad.

2 A bu, wedi iddynt fwytta yr ŷd a ddygasent o'r Aipht, ddywedyd o'u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

3 A Judah a attebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gwr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyd â chwi.

4 Os anfoni ein brawd gyd â ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth.

5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gwr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyd â chwi.

6 Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i'r gwr fod i chwi etto frawd?

7 Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gwr am danom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi etto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ol y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?

8 Judah a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyd â mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a'n plant hefyd.

9 Myfi a fechnïaf am dano ef; o'm llaw i y gofyni ef: onis dygaf ef attat ti, a'i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i'th erbyn byth.

10 Canys pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.

11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymmerwch o ddewis ffrwythau y wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i'r gwr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.

12 Cymmerwch hefyd ddau cymmaint o arian gyd â chwi; a dygwch eilwaith gyd â chwi yr arian a roddwyd drachefn y'ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.

13 Hefyd cymmerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gwr.

14 A DUW Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gwr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y'm diblantwyd, a ddiblentir.

15 ¶ A'r gwŷr a gymmerasant yr anrheg honno, a chymmerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i'r Aipht, a safasant gerbron Joseph.

16 A Joseph a ganfu Benjamin gyd â hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i'r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwytta gyd â myfi ar hanner dydd.

17 A'r gwr a wnaeth fel y dywedodd Joseph: a'r gwr a ddug y dynion i dŷ Joseph.

18 A'r gwŷr a ofnasant, pan ddygpwyd hwynt i dŷ Joseph; ac a ddywedasant,