Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AIL LYFR MOSES, YR HWN A ELWIR

EXODUS.

PENNOD I.

1 Plant Israel, ar ol marwolaeth Joseph, yn amlhâu. 8 Po mwyaf y mae y brenhin newydd yn eu gorthrymmu, mwyaf y maent yn amlhâu. 15 Duwioldeb y bydwragedd, yn cadw yn fyw y plant gwrryw. 22 Pharaoh yn gorchymyn bwrw y plant gwrryw i'r afon.

DYMA yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aipht: gyd â Jacob y ddaethant, bob un a'i deulu.

2 Reuben, Simeon, Lefi, a Judah,

3 Issachar, Zabulon, a Benjamin,

4 Dan, a Naphtali, Gad, ac Aser.

5 A'r holl eneidiau a ddaethant allan o gorph Jacob oedd ddeng henaid a thri ugain: a Joseph oedd yn yr Aipht.

6 A Joseph a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno.

7 ¶ A phlant Israel a hiliasant ac a gynnyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a'r wlad a lanwyd ohonynt.

8 Yna y cyfododd brenhin newydd yn yr Aipht, yr hwn nid adnabuasai mo Joseph.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele, bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.

10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhâu o honynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgyssylltu o honynt â'n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fynu o'r wlad.

11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid-gwaith, i'w gorthrymmu â'u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharaoh ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.

12 Ond fel y gorthrymment hwynt, felly yr amlhâent, ac y cynnyddent: a drwg oedd ganddynt o herwydd plant Israel.

13 A'r Aiphtiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.

14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy y gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a'u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.

15 A brenhin yr Aipht a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebrëesau; o ba rai enw un oedd Siprah, ac enw yr ail Puah:

16 Ac efe a ddywedodd. Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebrëesau, a gweled o honoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.

17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant DDUW, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywedasai brenhin yr Aipht wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18 Am hynny brenin yr Aipht a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

19 A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharaoh, Am nad yw yr Hebrëesau fel yr Aiphtiesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig attynt.

20 Am hynny y bu DUW dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

21 Ac o herwydd i'r bydwragedd ofni DUW, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.

22 A Pharaoh a orchymynodd i'w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a'r a enir, bwriwch ef i'r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.

PENNOD II.

Geni Moses, 3 a'i fwrw mewn cawell yn yr hesg. 5 Merch Pharaoh yn ei gael ef, ac yn ei ddwyn i fynu. 11 fe yn lladd Aiphtwr: 13 yn ceryddu Hebrëwr: 15 yn ffoi i Midian: 21 yn prïodi Sephorah. 22 Genedigaeth Gersom. 23 Duw yn ystyried ochenaid yr Israeliaid.

YNA gwr o dŷ Lefi a aeth, ac a brïododd ferch i Lefi.

2 A'r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.

3 A phan na allai hi ei guddio ef yn hŵy, hi a gymmerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ym mysg yr hesg ar fin yr afon.

4 A'i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wnaid iddo ef.

5 ¶ A merch Pharaoh a ddaeth i waered i'r afon i ymolchi; (a'i llangcesau oedd yn rhodio ger llaw yr afon;) a hi a ganfu y cawell y'nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llaw-forwyn i'w gyrchu ef.

6 Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu y bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.

7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharaoh, A âf fi i alw attat fammaeth o'r Hebrëesau, fel y mago hi y bachgen i ti?

8 A merch Pharaoh a ddywedodd wrthi, Dos. A'r llangces a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

9 A dywedodd merch Pharaoh wr'thi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A'r wraig a gymmerodd y bachgen, ac a'i magodd.

10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a'i dug ef i ferch Pharaoh; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; herwydd, eb hi, o'r dwfr y tynnais ef.

11 ¶ A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned o hono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Aiphtwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr.

12 Ac efe a edrychodd yma ac accw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Aiphtiad, ac a'i cuddiodd yn y tywod.

13 Ac efe a aeth allan yr ail dydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y tarewi dy gyfaill?

14 A dywedodd yntau, Pwy a'th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Aiphtiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Dïau y gwyddir y peth hyn.

15 Pan glybu Pharaoh y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharaoh, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.