16 Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a'r rhai hynny a ddaethant ac a dynnasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhâu defaid eu tad.
17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a'u gyrrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a'u cynnorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.
18 Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddyw cyn gynted?
19 A hwy a ddywedasant, Aiphtwr a'n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.
20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gwr? Gelwch arno, a bwyttâed fara.
21 A bu Moses foddlawn i drigo gyd â'r gwr: ac yntau a roddodd Sephorah ei ferch i Moses.
22 A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: O herwydd dïeithr, eb efe, a fûm i mewn gwlad ddïeithr.
23 ¶ Ac yn ol dyddiau lawer, bu farw brenhin yr Aipht; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a'u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at DDUW, oblegid y caethiwed.
24 A DUW a glybu eu huchenaid hwynt; a DUW a gofiodd ei gyfammod âg Abraham, âg Isaac, ac â Jacob.
25 A DUW a edrychodd ar blant Israel; DUW hefyd a gydnabu â hwynt.
PENNOD III.
Moses yn bugeilio defaid Jethro. 2 Duw yn ymddangos iddo mewn perth yn llosgi: 9 ac yn ei anfon ef i waredu Israel. 14 Enw Duw. 15 Ei gennadwriaeth ef at Israel.
A MOSES oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o'r tu cefn i'r anialwch, ac a ddaeth i fynydd DUW, Horeb.
2 Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a'r berth heb ei difa.
3 A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi.
4 Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod efe yn troi i edrych, DUW a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.
5 Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: dïosg dy esgidiau oddi am dy draed; o herwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.
6 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW dy dad, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar DDUW.
7 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a'u gwaedd o achos eu meistriaid-gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.
8 A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i'w dwyn o'r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid.
9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth attaf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â'r hwn y gorthrymmodd yr Aiphtiaid hwynt.
10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a'th anfonaf at Pharaoh; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o'r Aipht.
11 ¶ A dywedodd Moses wrth DDUW, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharaoh, ac y dygwn blant Israel allan o'r Aipht?
12 Dywedodd yntau, Dïau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aipht, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn.
13 A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a'm hanfonodd attoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?
14 A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, YDWYF a'm hanfonodd attoch.
15 A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a'm hanfonodd attoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd. Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aipht.
17 A dywedais, Mi a'ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
18 A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aipht, a dywedwch wrtho, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, attolwg, daith tri diwrnod i'r anialwch, fel yr aberthom i'r ARGLWYDD ein DUW.
19 ¶ A mi a wn na edy brenin yr Aipht i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.
20 Am hynny mi a estynaf fy llaw, ac a drawaf yr Aipht â'm holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a'ch gollwng chwi ymaith.
21 A rhoddaf hawddgarwch i'r bobl hyn y'ngolwg yr Aiphtiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;
22 Ond pob gwraig a fenthyccia gan ei chymmydoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a'u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a yspeiliwch yr Aiphtiaid.
PENNOD IV.
Troi gwïalen Moses yn sarph. 6 Ei law ef yn gwahan-glwyfo. 10 Efe yn anewyllysgar i'w anfon. 14 Appwyntio Aaron i'w helpu ef. 18 Moses yn ymadael oddi wrth Jethro. 21 Cennadwriaeth Duw at Pharaoh. 24 Danfon Aaron i gyfarfod â Moses. 31 Y bobl yn credu iddynt.
A Moses a attebodd, ac a ddywedodd, Etto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr ARGLWYDD i ti.
2 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwïalen.
3 Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a'i taflodd hi ar y ddaear;