Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a hi a aeth yn sarph: a Moses a giliodd rhagddi.

4 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wïalen yn ei law ef:

5 Fel y credant ymddangos i ti o ARGLWYDD DDUW eu tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob.

6 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahan-glwyfol fel yr eira.

7 Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a'i tynnodd hi allan o'i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.

8 A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, etto y credant i lais yr ail arwydd.

9 A bydd, oni chredant hefyd i'r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymmeri o ddwfr yr afon ac a'i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymmerech o'r afon yn waed ar y tir sych.

10 ¶ A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm wr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.

11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD?

12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyd â'th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.

13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, attolwg, gyd â'r hwn a ddanfonych.

14 Ac ennynodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15 Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyd â'th enau di, a chyd â'i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.

16 A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle DUW iddo yntau.

17 Cymmer hefyd y wïalen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

18 ¶ A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gâd i mi fyned, attolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

19 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i'r Aipht; o herwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.

20 A Moses a gymmerth ei wraig, a'i feibion, ac a'u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aipht: cymmerodd Moses hefyd wïalen DUW yn ei law.

21 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aipht, gwel i ti wneuthur ger bron Pharaoh yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.

22 A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.

23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.

24 ¶ A bu, ar y ffordd yn y lletty, gyfarfod o'r ARGLWYDD âg ef, a cheisio ei ladd ef.

25 Ond Sephorah a gymmerth gyllell lem, ac a dorrodd ddïenwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Dïau dy fod yn brïod gwaedlyd i mi.

26 A'r ARGLWYDD a beidiodd âg ef: yna y dywedodd hi, Prïod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i'r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu âg ef ym mynydd DUW, ac a'i cusanodd ef.

28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr ARGLWYDD, yr hwn a'i hanfonasai ef, a'r holl arwyddion a orchymynasai efe iddo.

29 ¶ A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynnullasant holl henuriaid meibion Israel.

30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion y'ngolwg y bobl.

31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o'r ARGLWYDD â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.

PENNOD V.

Pharaoh yn rhoddi sen i Moses ac Aaron am eu cennadwriaeth: 5 yn ychwanegu tasg yr Israeliaid: 15 yn eu ceryddu hwynt am eu hachwynion. 21 Hwythau yn llefain yn erbyn Moses ac Aaron. 22 Moses yn cwyno wrth Dduw.

Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.

2 A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr ARGLWYDD, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr ARGLWYDD nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.

3 A dywedasant hwythau, DUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gâd i ni fyned, attolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i'r ARGLWYDD ein DUW; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.

4 A dywedodd brenhin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i'r bobl beidio â'u gwaith? ewch at eich beichiau.

5 Pharaoh hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â'u llwythau.

6 A gorchymynnodd Pharaoh, y dydd hwnnw, i'r rhai oedd feistriaid-gwaith ar y bobl a'u swyddogion, gan ddywedyd,

7 Na roddwch mwyach wellt i'r bobl i wneuthur priddfeini, megis o'r blaen; elant a chasglant wellt iddynt eu hunain.

8 A rhifedi y priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch arnynt; na leihêwch o hynny: canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gâd i ni fyned ac aberthu i'n DUW.

9 Trymhâer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.