Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

10 ¶ A meistriaid-gwaith y bobl, a'u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharaoh, Ni roddaf wellt i chwi.

11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leihêir dim o'ch gwaith.

12 A'r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasglu sofl yn lle gwellt.

13 A'r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorphenwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.

14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharaoh arnynt hwy, a dywedwyd, Paham na orphenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddyw, megis cyn hynny?

15 ¶ Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharaoh, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â'th weision?

16 Gwellt ni roddir i'th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a'th bobl di dy hun sydd ar y bai.

17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd. Gâd i ni fyned ac aberthu i'r ARGLWYDD.

18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; etto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini.

19 A swyddogion meibion Israel a'u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihêwch ddim o'ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

20 ¶ A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharaoh:

21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr ARGLWYDD arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i'n sawyr ni ddrewi ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i'n lladd ni.

22 A dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y'm hanfonaist?

23 Canys er pan ddeuthum at Pharaoh, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.

PENNOD VI.

Duw yn adnewyddu ei addewid, trwy ei enw JEHOFAH. 14 Achau Reuben, 15 Simeon, 16 a Lefi, o'r hwn y daeth Moses ac Aaron.

Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o'i wlad.

2 DUW hefyd a lefarodd with Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH.

3 A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw DUW Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt.

4 Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.

5 A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Aiphtiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfammod.

6 Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr ARGLWYDD; a myfi a'ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau y; Aiphtiaid, ac a'ch rhyddhâf o'u caethiwed hwynt; ac a'ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.

7 Hefyd mi a'ch cymmerafyri bobl i mi, ac a fyddaf yn DDUW i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid.

8 A mi a'ch dygaf chwi i'r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a'i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr ARGLWYDD.

9 ¶ A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.

10 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

11 Dos i mewn; dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan o'i wlad.

12 A Moses a lefarodd ger bron yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y'm gwrandawai Pharaoh, a minnau yn ddïenwaededig o wefusau?

13 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharaoh brenhin yr Aipht, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aipht.

14 ¶ Dyma eu pen-cenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phàlu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.

15 A meibion Simeon; Jemuel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanees: dyma deuluoedd Simeon.

16 ¶ Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ol eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.

17 Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ol eu teuluoedd.

18 A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chàn mlynedd.

19 Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ol eu cenedlaethau.

20 Ac Amram a gymmerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chàn mlynedd.

21 ¶ A meibion Ishar; Corah, a Nepheg, a Sicri.

22 A meibion Uzziel; Misael, ac Elsaphan, a Sithri.

23 Ac Aaron a gymmerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

24 Meibion Corah hefyd; Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dyma deuluoedd y Corahiaid.

25 Ac Eleazar, mab Aaron, a gymmerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd.

26 Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.

27 Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am ddwyn meibion Is-