Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rael allan o'r Aipht: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.

28 ¶ A bu, ar y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn nhir yr Aipht,

29 Lefaru o'r ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD: dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, yr hyn oill yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.

30 A dywedodd Moses ger bron yr ARGLWYDD, Wele fi yn ddïenwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharaoh arnaf?

PENNOD VII.

Duw yn rhoi calon ym Moses i fyned at Pharaoh. 7 Ei oedran ef. 8 Ei wïalen ef yn troi yn sarph. 11 Yr hudolion yn gwneuthur y cyffelyb. 13 Caledu calon Pharaoh. 14 Cennadwriaeth Duw at Pharaoh. 19 Troi yr afon yn waed.

A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Gwel, mi a'th wneuthum yn dduw i Pharaoh: ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithau.

2 Ti a leferi yr hyn oll a orchymynwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharaoh, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o'i wlad.

3 A minnau a galedaf galon Pharaoh, ac a amlhâf fy arwyddion a'm rhyfeddodau y'ngwlad yr Aipht.

4 Ond ni wrendy Pharaoh arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aipht, trwy farnedigaethau mawrion.

5 A'r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan estynwyf fy llaw ar yr Aipht, a dwyn meibion Israel allan o'u mysg hwynt.

6 A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchymynodd yr ARGLWYDD iddynt; ïe, felly y gwnaethant.

7 A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharaoh.

8 ¶ A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

9 Pan lefaro Pharaoh wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, a bwrw hi ger bron Pharaoh; a hi a â yn sarph.

10 ¶ A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharaoh, ac a wnaethant felly, megis y gorchymynasai yr ARGLWYDD: ac Aaron a fwriodd ei wïalen ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision; a hi a aeth yn sarph.

11 A Pharaoh hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aipht, a wnaethant felly trwy eu swynion.

12 Canys bwriasant bob un ei wïalen; a hwy a aethant yn seirph: ond gwïalen Aaron a lyngcodd eu gwïail hwynt.

13 A chalon Pharaoh a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

14 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD with Moses, Caledodd calon Pharaoh; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.

15 Dos at Pharaoh yn fore: wele efe a ddaw allan i'r dwfr; saf dithau ar làn yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymmer yn dy law y wïalen a drodd yn sarph.

16 A dywed wrtho ef, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a'm hanfonodd attat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.

17 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: wele, myfi â'r wïalen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y tröer hwynt yn waed.

18 A'r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a'r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Aiphtiaid yfed dwfr o'r afon.

19 ¶ Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymmer dy wïalen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aipht, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aipht, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.

20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchymynodd yr ARGLWYDD: ac efe a gododd ei wïalen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, y'ngŵydd Pharaoh, ac y'ngŵydd ei weision; a'r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a dröwyd yn waed.

21 A'r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a'r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Aiphtiaid yfed dwfr o'r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aipht.

22 A swynwyr yr Aipht a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharaoh, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

23 A Pharaoh a drodd ac a aeth i'w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.

24 A'r holl Aiphtiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i'w yfed, canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.

25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i'r ARGLWYDD daro'r afon.


PENNOD VIII.

Danfon llyffaint. 8 Pharaoh yn ymbil â Moses. 12 A Moses trwy weddi yn eu tynnu hwynt ymaith. 16 Troi y llwch yn llau: yr hyn ni allai y swynwyr ei wneuthur. 20Yr heidiau ednog. 25 Pharaoh yn lled-foddlawn i'r bobl fyned; 32 etto efe a galedir.

A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

2 Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a darawaf dy holl derfynau di â llyffaint.

3 A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.

4 A'r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

5 ¶ Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â'th wïalen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tir yr Aipht.

6 Ac Aaron a estynodd ei law ar ddyfroedd yr Aipht; a'r llyffaint a ddaethant i fynu, ac a orchuddiasant dir yr Aipht.

7 A'r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fynu lyffaint ar wlad yr Aipht.

8 ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, ar iddo dynnu'r llyffaint