Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i'r ARGLWYDD.

9 A Moses a ddywedodd wrth Pharaoh, Cymmer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa y llyffaint oddi wrthyt, ac o'th dai, a'u gadael yn unig yn yr afon?

10 Ac efe a ddywedodd, Y fory. A dywedodd yntau. Yn ol dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein DUW ni.

11 A'r llyffaint a ymadawant â thi, ac â'th dai, ac â'th weision, ac â'th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharaoh. A Moses a lefodd ar ARGLWYDD, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharaoh.

13 A'r ARGLWYDD a wnaeth yn ol gair Moses; a'r llyffaint a fuant feirw o'r tai, o'r pentrefydd, ac o'r meusydd.

14 A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

15 Pan welodd Pharaoh fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

16 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wïalen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wïalen, ac a darawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

18 A'r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddyn ac ar anifail.

19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharaoh, Bys DUW yw hyn: a chaledwyd calon Pharaoh, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

20 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh; wele, efe a ddaw allan i'r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

21 O herwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti,

ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th dai, gymmysgbla: a thai yr Aiphtiaid a lenwir o'r gymmysgbla, a'r ddaear hefyd yr hon y maent arni.

22 A'r dydd hwnnw y neillduaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo'r gymmysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD y'nghanol y ddaear.

23 A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a'th bobl di: y fory y bydd yr arwydd hwn.

24 A'r ARGLWYDD a wnaeth felly; a daeth cymmysgbla drom i dŷ Pharaoh, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aipht; a llygrwyd y wlad gan y gymmysgbla.

25 ¶ A Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i'ch DUW yn y wlad.

26 A dywedodd Moses, Nid cymmwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i'r ARGLWYDD ein DUW ffieiddbeth yr Aiphtiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Aiphtiaid y'ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?

27 Taith tridiau yr awn i'r anialwch, a nyni a aberthwn i'r ARGLWYDD ein DUW, megis y dywedo efe wrthym ni.

28 A dywedodd Pharaoh, Mi a'ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i'r ARGLWYDD eich DUW yn yr anialwch; ond nac ewch ym mhell: gweddïwch trosof fi.

29 A dywedodd Moses, Wele, myfi a âf allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr ARGLWYDD, ar gilio y gymmysgbla oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobi, y fory: ond na thwylled Pharaoh mwyach, heb ollwng ymaith y bobl, i aberthu i'r ARGLWYDD.

30 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

31 A gwnaeth yr ARGLWYDD yn ol gair Moses: a'r gymmysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharaoh, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un.

32 A Pharaoh a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.

PENNOD IX.

Haint yr anifeiliaid. 8 Pla y cornwydydd llinorog. 13 Cennadwriaeth Moses ynghylch y cennlysg. 22 Pla y cenllysg. 28 Pharaoh yn ymbil â Moses; 35 ac er hynny efe a galedir.

Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

2 Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac attal o honot hwynt eto,

3 Wele, llaw yr ARGLWYDD fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

4 A'r ARGLWYDD a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a'r sydd eiddo meibion Israel.

5 A gosododd yr ARGLWYDD amser nodedig, gan ddywedyd, Y fory y gwna'r ARGLWYDD y peth hyn yn y wlad.

6 A'r ARGLWYDD a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Aiphtiaid; ond o amfeiliaid meibion Israel ni bu farw un.

7 A Pharaoh a anfonodd, ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharaoh a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

8 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Aaron, Cymmerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tu a'r nefoedd y'ngŵydd Pharaoh:

9 Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aipht; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aipht.

10 A hwy a gymmerasant ludw y ffwrn, ac a safasant ger bron Pharaoh: a Moses a'i taenodd tu a'r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.

11 A'r swynwyr ni allent sefyll ger bron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.

12 A'r ARGLWYDD a galedodd galon Pharaoh, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

13 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh, a dywed