Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl bläau ar dy galon, ac ar dy

weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.

15 O herwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a'th darawaf di a'th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.

16 Ac yn ddïau er mwyn hyn y'th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy yr holl ddaear.

17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl etto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

18 Wele, mi a wlawiaf ynghylch yr amser yma y fory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aipht, o'r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a'r y sydd i ti yn y maes: phob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.

20 Yr hwn a ofnodd air yr ARGLWYDD o weision Pharb, a yrrodd ei weision a'i anifeiliaid i dai;

21 A'r hwn nid ystyriodd air yr ARGLWYDD, a adawodd ei weision a'i anifeiliaid yn y maes.

22 A'r ARGLWYDD a ddywedddd wrth Moses, Estyn dy law tu a'r nefoedd, fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aipht, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aipht.

23 A Moses a estynnodd ei wïalen tu a'r nefoedd: a'r ARGLWYDD a roddodd daranau a chenllysg, a'r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr ARGLWYDD genllysg ar dir yr Aipht.

24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymmeryd y'nghanol y cenllysg, yn flin iawn, yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.

25 A'r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aipht, gwbl a'r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.

26 Yn unig y'ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

27 ¶ A Pharaoh a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr ARGLWYDD sydd gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol.

28 Gweddïwch ar yr ARGLWYDD (canys digon yw hyn) na byddo taranau DUW na chenllysg; a mi a'ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hŵy.

29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o'r ddinas mi a ledaf fy nwylaw at yr ARGLWYDD: a'r taranau a beidiant, a'r cenllysg ni bydd mwy, fel y gwypych mai yr ARGLWYDD bïau y ddaear.

30 Ond mi a wn nad wyt ti etto, na'th weision, yn ofni wyneb yr ARGLWYDD DDUW.

31 A'r llin a'r haidd a gurwyd, canys yr haidd oedd wedi hedeg, a'r llin wedi hadu:

32 A'r gwenith a'r rhŷg ni churwyd; o herwydd diweddar oeddynt hwy.

33 A Moses a aeth oddi wrth Pharaoh allan o'r ddinas, ac a ledodd ei ddwylaw at yr ARGLWYDD; a'r taranau a'r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.

34 A phan welodd Pharaoh beidio o'r glaw, a'r cenllysg, a'r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a'i weision.

35 A chaledwyd calon Pharaoh, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith, megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.

PENNOD X.

Duw yn bygwth anfon locustiaid. 7 Pharaoh, ar ddeisyfiad ei weision, yn lled-foddlawn i'r Israeliaid fyned ymaith. 12 Pla y locustiaid. 16 Pharaoh yn ymbil â Moses. 21 Pla y tywyllwch anferthol. 24 Pharaoh yn ymbil â Moses: 27 etto efe a galon-galedir.

A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharaoh: o herwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:

2 Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aipht; a'm harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

3 A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

4 O herwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, y fory y dygaf locustiaid i'th fro;

5 A hwynt-hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear; a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddïangol gan y cenllysg, difant hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.

6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Aiphtiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharaoh.

7 A gweision Pharaoh a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr ARGLWYDD eu DUW: Oni wyddost ti eto ddifetha'r Aipht?

8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharaoh: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW: ond pa rai sydd yn myned?

9 A Moses a ddywedodd, A'n llangciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; a'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gwyl i'r ARGLWYDD.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo yr ARGLWYDD gyd â chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach|: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.

11 Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr ARGLWYDD: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharaoh.

12 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aipht am locustiaid, fel y delont i fynu ar dir yr Aipht; ac y bwyttaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a'r a adawodd y cenllysg.

13 A Moses a estynodd ei wïalen ar dir yr Aipht: a'r ARGLWYDD a ddug ddwyrein-wynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.