14 A'r locustiaid a aethant i fynu dros holl wlad yr Aipht, ac a arhosasant ym mhob ardal i'r Aipht: blin iawn oeddynt; ni bu y fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hol ni bydd y cyffelyb.
15 Canys toisant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aipht.
16 ¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW, ac yn eich erbyn chwithau.
17 Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr ARGLWYDD eich DUW, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
18 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharaoh, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.
19 A'r ARGLWYDD a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymmerodd ymaith y locustiaid, ac a'u bwriodd hwynt i'r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aipht.
20 Er hynny caledodd yr ARGLWYDD galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
21 ¶ A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law tu a'r nefoedd,, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.
22 A Moses a estynodd ei law tu a'r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aipht dri diwrnod.
23 Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o'i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.
24 ¶ A galwodd Pharaoh am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD; arhôed eich defaid, a'ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach|hefyd gyd â chwi.
25 A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylaw ebyrth a phoeth-offrymmau, fel yr aberthom i'r ARGLWYDD ein DUW.
26 Aed ein hanifeiliaid hefyd gyd â ni; ni adewir ewin yn ol: oblegid o honynt y cymmerwn i wasanaethu yr ARGLWYDD ein DUW: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr ARGLWYDD, hyd oni ddelom yno.
27 ¶ Ond yr ARGLWYDD a galedodd galon Pharaoh, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.
28 A dywedodd Pharaoh wrtho. Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.
29 A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.
PENNOD XI.
Cennadwriaeth Duw at yr Israeliaid i fenthyccio tlysau gan eu cymmydogion. 4 Moses yn bygwth Pharaoh â marwoldaeth y cyntafanedig.
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Un bla etto a ddygaf ar Pharaoh, ac ar yr Aipht; wedi hynny efe a'ch gollwng chwi oddi yma: pan y'ch gollyngo, gan wthio efe a'ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.
2 Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthyccied pob gwr gan ei gymmydog, a phob gwraig gan ei chymmydoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.
3 A'r ARGLWYDD a roddodd i'r bobl ffafr y'ngolwg yr Aiphtiaid: ac yr oedd Moses yn wr mawr iawn y'ngwlad yr Aipht, y'ngolwg gweision Pharaoh, ac y'ngolwg y bobl.
4 Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD; Ynghylch hanner nos yr âf fi allan i ganol yr Aipht.
5 A phob cyntaf-anedig y'ngwlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.
6 A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aipht, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.
7 Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symmud ci ei dafod, ar ddyn, nac anifail; fel y gwypoch fod yr ARGLWYDD yn gwneuthur rhagor rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.
8 A'th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a'r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.
9 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Ni wrendy Pharaoh arnoch; fel yr amlhâer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aipht.
10 A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharaoh: a'r ARGLWYDD a galedodd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o'i wlad.
PENNOD XII.
Newidio dechreuad y flwyddyn. 3 Ordeinio y Pasc. 11 Defod y Pasc. 15 Bara croyw. 29 Marwolaeth y cyntaf-anedig. 31 Gyrru yr Israeliaid allan o'r tir. 37 Hwythau yn dyfod i Succoth. 43 Ordinhâd y Pasc.
Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aipht, gan ddywedyd,
2 Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.
3 ¶ Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o'r mis hwn cymmerant iddynt bob un oen, yn ol teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.
4 Ond os y teulu fydd ry fychan i'r oen, efe a'i gymmydog nesaf i'w dŷ a'i cymmer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.
5 Bydded yr oen gennych yn berffeith-gwbl, yn wrryw, ac yn llwdn biwydd: o'r defaid, neu o'r geifr, y cymmerwch ef.
6 A bydded y'nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef yn y cyfnos.
7 A chymmerant o'r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gappan drws y tai y bwyttânt ef ynddynt.
8 A'r cig a fwyttânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyd â dail surion y bwyttânt ef.
9 Na fwyttêwch o hono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyd â'i draed a'i ymysgaroedd.
10 Ac na weddillwch ddim o hono hyd y bore: a'r hyn fydd y'ngweddill o hono erbyn y bore, llosgwch yn tân.
11 ¶ Ac fel hyn y bwyttêwch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a'ch esgidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylaw: bwyttêwch ef ar ffrwst; Pasg yr ARGLWYDD ydyw efe.
12 O herwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bob cyntaf-