Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anedig o fewn tir yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aipht: myfi yw yr ARGLWYDD.

13 A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd pla dinystriol arnoch chwi, pan darawyf dir yr Aipht.

14 A'r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a'i cedwch ef yn wyl i'r ARGLWYDD trwy eich cenhedlaethau: cedwch ef yn wyl trwy ddeddf dragwyddol.

15 Saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o'ch tai; o herwydd pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.

16 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd, a chymmanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwytty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur.

17 Cedwch hefyd wyl y bara croyw; o herwydd o fewn corph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenhedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.

18 ¶ Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd at ddeg o'r mis yn yr hwyr, y bwyttêwch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o'r mis yn yr hwyr.

19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwyttao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dïeithr a'r prïodor.

20 Na fwyttêwch ddim lefeinllyd: bwyttêwch fara croyw yn eich holl drigfannau.

21 ¶ A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymmerwch i chwi oen yn ol eich teuluoedd, a lleddwch y Pasc.

22 A chymmerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o'r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.

23 O herwydd yr ARGLWYDD a dramwya i daro yr Aiphtiaid: a phan welo efe y gwaed ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr ARGLWYDD a â heibio i'r drws, ac ni âd i'r dinystrydd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddinystrio,

24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.

25 A phan ddeloch i'r wlad a rydd yr ARGLWYDD i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn.

26 A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych?

27 Yna y dywedwch, Aberth Pasc yr ARGLWYDD ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aipht, pan drawodd efe yr Aiphtiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.

28 A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, felly y gwnaethant.

29 ¶ Ac ar hanner nos y tarawodd y ARGLWYDD bob cyntaf-anedig y'ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig Pharaoh yr hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.

30 A Pharaoh a gyfododd liw nos, efe a'i holl weision, a'r holl Aiphtiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aipht: oblegid nid oedd dŷ a'r nad ydoedd un marw ynddo.

31 ¶ Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwchh, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr ARGLWYDD, fel y dywedasoch.

32 Cymmerwch eich defaid, a'ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.

33 A'r Aiphtiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o'r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll.

34 A'r bobl a gymmerodd eu toes cyn ei lefeinio, a'u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau.

35 A meibion Israel a wnaethant yn ol gair Moses; ac a fenthycciasant gan yr Aiphtiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd.

36 A'r ARGLWYDD a roddasai i'r bobl hawddgarwch y'ngolwg yr Aiphtiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a yspeiliasant yr Aiphtiaid.

37 ¶ A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, y'nghylch chwe chàn mil o wŷr traed, heb law plant.

38 A phobl gymmysg lawer a aethant i fynu hefyd gyd â hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef dâ lawer iawn.

39 A hwy a bobasant y toes a ddygasent allan o'r Aipht yn deisennau croyw; o herwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o'r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharottoisent iddynt eu hun luniaeth.

40 ¶ A phreswyliad meibion Israel, tra y y trigasant yn yr Aipht, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd.

41 Ac ym mhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ïe, o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aipht.

42 Nos yw hon i'w chadw i'r ARGLWYDD, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht: nos yr ARGLWYDD yw hon, i holl feibion Israel i'w chadw trwy eil hoesoedd.

43 ¶ Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasc: na fwyttâed neb dïeithr o hono.

44 Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwytty o hono.

45 Yr alltud, a'r gwas cyflog, ni chaiff fwyta o hono.

46 Mewn un tŷ y bwyttêir ef: na ddwg ddim o'r cig allan o'r tŷ, ac na thorrwch asgwrn o hono.

47 Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny.

48 A phan arhoso dïeithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i'r ARGLWYDD, enwaeder ei holl wrrywiaid ef, ac yna nesâed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwyttâed neb dïenwaededig o hono.

49 Yr un gyfraith fydd i'r prïodor, ac i'r dïeithr a arhoso yn eich mysg.

50|5 Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchymynasai yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.

51|5 Ac o fewn corph y dydd hwnnw y dug yr ARGLWYDD feibion Israel o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.