PENNOD XIII.
Cyssegru y cyntaf-anedig i Dduw. 3 Gorchymyn cadw coffadwriaeth o'r Pasc. 11 Neillduo y cyntaf o'r anifeiliaid. 17 Yr Israeliaid wrth fyned allan o'r Aipht yn dwyn esgyrn Joseph gyd â hwynt. 20Yn dyfod i Etham. 21 Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân.
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Cyssegra i mi bob cyntaf-anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ym mysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.
3 ¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o'r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr ARGLWYDD chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.
4 Heddyw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.
5 ¶ A phan ddygo yr ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn.
6 Saith niwrnod y bwyttêi fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gwyl i'r ARGLWYDD.
7 Bara croyw a fwyttêir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd â thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.
8 ¶ A mynega i'th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, O herwydd yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aipht, y gwneir hyn.
9 A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr ARGLWYDD yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD dydi allan o'r Aipht.
10 Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.
11 ¶ A phan ddygo yr ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a'i rhoddi i ti,
12 Yna y neilldui i'r ARGLWYDD bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrrywiaid eiddo yr ARGLWYDD fyddant.
13 A phob cyntaf i asyn a bryni di âg oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf-anedig o'th feibion a bryni di hefyd.
14 A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aipht, o dŷ y caethiwed.
15 A phan oedd anhawdd gan Pharaoh ein gollwng ni, y lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntaf-anedig
y'ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwrryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o'm meibion a brynaf.
16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhagdalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aipht.
17 ¶ A phan ollyngodd Pharaoh y bobl, ni arweiniodd yr ARGLWYDD hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd DUW, Rhag i'r bobl edifarhâu pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aipht.
18 Ond DUW a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aipht.
19 A Moses a gymmerodd esgyrn Joseph gyd âg ef: o herwydd efe a wnelsai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, DUW a ymwêl â chwi yn ddïau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyd â chwi.
20 ¶ A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, y'nghwrr yr anialwch.
21 A'r ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i'w harwain ar y ffordd; a'r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
22 Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nos, o flaen y bobl.
PENNOD XIV.
Duw yn hyfforddi yr Israeliaid yn eu taith. 5 Pharaoh yn erlid ar eu hol hwynt. 10Yr Israeliaid yn tuchan. 13 Moses yn eu cysuro hwy. 15 Duw yn dysgu i Moses beth a wnai. 19 Y niwl yn symmudo i'r tu ol i'r gwersyll. 21 Yr Israeliaid yn myned trwy y môr coch; 23 a'r Aiphtiaid yn boddi ynddo.
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr, o flaen Baal-sephon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrthi y môr.
3 Canys dywed Pharaoh am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; cauodd yr anialwch arnynt.
4 A mi a galedaf galon Pharaoh, fel yr erlidio ar eu hol hwynt: felly y'm gogoneddir ar Pharaoh, a'i holl fyddin; a'r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. Ac felly y gwnaethant.
5 ¶ A mynegwyd i frenhin yr Aipht, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharaoh a'i weisionyn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu?
6 Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymmerodd ei bobl gyd âg ef.
7 A chymmerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht, a chapteiniaid ar bob un o honynt.
8 A'r ARGLWYDD a galedasai galon Pharaoh brenhin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.
9 A'r Aiphtiaid a ymlidiasant ar eu hol hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharaoh, a'i wŷr meirch, a'i fyddin, ac a'u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, ger llaw Pihahiroth, o flaen Baal-sephon.
10 ¶ A phan nesaodd Pharaoh, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD.
11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o'r Aipht?
12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aipht, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu yr Aiphtiaid, na marw yn yr anialwch.
13 ¶ A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iach-