Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awdwriaeth yr ARGLWYDD, yr hwn a wna efe i chwi heddyw; oblegid yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.

14 Yr ARGLWYDD a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

15 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Paham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.

16 A chyfod dithau dy wïalen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.

17 Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.

18 A'r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan y'm gogoneddir ar Pharaoh, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 ¶ Ac angel DUW, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symmudodd, ac a aeth o'u hol hwynt; a'r golofn niwl a aeth ymaith o'u tu blaen hwynt, ac a safodd o'u hol hwynt.

20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Aiphtiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmmwl ac yn dywyllwch i'r Aiphtiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.

21 A Moses a estynodd ei law ar y môr: a'r ARGLWYDD a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o'r tu deau, ac o'r tu aswy.

23 ¶ A'r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hol hwynt; sef holl feirch Pharaoh, a'i gerbydau, a'r farchogion, i ganol y môr.

24 Ac ar y wyliadwriaeth fore yr ARGLWYDD a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid trwy y golofn dân a'r cwmmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Aiphtiaid.

25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr ARGLWYDD sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Aiphtiaid.

26 ¶ A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo'r dyfroedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27 A Moses a estynodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i'w nerth; a'r Aiphtiaid a ffoisant yn ei erbyn ef: a'r ARGLWYDD a ddymchwelodd yr Aiphtiaid yng nghanol y môr.

28 A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion: a holl fyddin Pharaoh, y rhai a ddaethant ar eu hol hwynt i'r môr: ni adawyd o honynt gymmaint ag un.

29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych y'nghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

30 Felly yr ARGLWYDD a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fin y môr.

31 A gwelodd Israel y grymmusder mawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Aiphtiaid: a'r bobl a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a gredasant i'r ARGLWYDD ac i'w was ef Moses.

PENNOD XV.

Cân Moses. 2 Y bobl ag eisieu dwfr arnynt. 23 Chwerw ddyfroedd Marah. 25 Pren yn eu pereiddio hwy. 27 Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain, yn Elim.

Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r ARGLWYDD, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i'r ARGLWYDD; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchog i'r môr.

2 Fy nerth a'm cân yw yr ARGLWYDD; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy NUW, efe a ogoneddaf fi; DUW fy nhad, a mi a'i dyrchafaf ef.

3 Yr ARGLWYDD sydd ryfelwr: yr ARGLWYDD yw ei enw.

4 Efe a daflodd gerbydau Pharaoh a'i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

5 Y dyfnderau a'u toesant hwy; disgynasant i'r gwaelod fel carreg.

6 Dy ddeheulaw, ARGLWYDD, sydd ardderchog o nerth; a'th ddeheulaw, ARGLWYDD, a ddrylliodd y gelyn.

7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.

8 Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant y'nghanol y môr.

9 Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr yspail; caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a'u difetha hwynt.

10 Ti a chwythaist â'th wynt; y môr a'u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11 Pwy sydd debyg i ti, O ARGLWYDD, ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12 Estynaist dy ddeheulaw; llyngcodd y ddaear hwynt.

13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anneddle dy sancteiddrwydd.

14 Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.

15 Yna y synna ar dduciaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

16 Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, ARGLWYDD, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.

17 Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O ARGLWYDD, yn anneddle i ti, y cyssegr, ARGLWYDD, a gadarnhaodd dy ddwylaw.

18 Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth ac yn dragwydd.

19 O herwydd meirch Pharo, a'i gerbydau, a'i farchogion, a aethant i'r môr, a'r ARGLWYDD a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych y'nghanol y môr.

20 ¶ A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi, â thympanau ac â dawnsiau.

21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i'r ARGLWYDD; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a'r marchog i'r môr.