Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

23 ¶ A phan ddaethant i Marah, ni allent yfed dyfroedd Marah, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.

24 A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?

25 Ac efe a waeddodd ar yr ARGLWYDD; a'r ARGLWYDD a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a'i bwriodd i'r dyfroedd, a'r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

26 Ac a ddywedodd, Os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i'w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o'r clefydau a roddai ar yr Aiphtiaid; o herwydd myfi yw yr ARGLWYDD dy iachawdwr di.

27 ¶ A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.

PENNOD XVI.

Yr Israeliaid yn dyfod i Sin; 2 ac yn tuchan o eisieu bara. 4 Duw yn addaw iddynt fara o'r nefoedd. 11 Danfon soflieir, 14 a manna. 16 Trefn y manna. 25 Na cheid ef ar y dydd Sabbath. 32 Cadw llonaid omer o hono ef.

A hwy a symmudasant o Elim; a holl gynnulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o'r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.

2 A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.

3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr ARGLWYDD y'ngwlad yr Aipht, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwytta bara ein gwala: ond chwi a'n dygasoch ni allan i'r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.

4 ¶ Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, mi a wlawiaf arnoch fara o'r nefoedd: a'r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnant.

5 Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymmaint ag a gasglant beunydd.

6 A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr ARGLWYDD a'ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.

7 Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr ARGLWYDD; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr ARGLWYDD: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i'n herbyn?

8 Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr ARGLWYDD i chwi yn yr hwyr gig i'w fwytta, a'r bore fara eich gwala; am glywed o'r ARGLWYDD eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.

9 ¶ A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nês ger bron yr ARGLWYDD: o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.

10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tu a'r anialwch; ac wele, gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd yn y cwmmwl.

11 ¶ A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr y cewch fwytta cig, a'r bore y'ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.

13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a'r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.

14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynau crynion cyn faned a'r llwydrew ar y ddaear.

15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwytta.

16 ¶ Hyn yw y peth a orchymynodd yr ARGLWYDD; Cesglwch o hono bob un yn ol ei fwytta: omer i bob un yn ol rhifedi eich eneidiau; cymmerwch bob un i'r rhai fyddant yn ei bebyll.

17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.

18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i'r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisieu ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ol el fwytta.

19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim o hono hyd y bore.

20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gadaw a wnaeth rhai o hono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

21 A hwy a'i casglasant ef bob bore, pob un yn ol ei fwytta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.

22 ¶ Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymmaint o fara, dau omer i un: a holl bennaethiaid y gynnulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr ARGLWYDD; Y fory y mae gorphwysfa Sabbath sanctaidd i'r ARGLWYDD: pobwch heddyw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.

24 A hwy a'i cadwasant hyd y bore, fel y gorchymynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

25 A dywedodd Moses, Bwyttêwch hwn heddyw; oblegid Sabbath yw heddyw i'r ARGLWYDD: ni chewch hwn yn y maes heddyw.

26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Sabbath, ni bydd efe.

27 ¶ Etto rhai o'r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.

28 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchymynion a'm cyfreithiau?

29 Gwelwch mai yr ARGLWYDD a roddodd i chwi y Sabbath; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o'i le y seithfed dydd.

30 Felly y bobl a orphwysasant y seithfed dydd.