Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

31 A thŷ Israel, a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrllad o fêl.

32 ¶ A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchymynodd yr ARGLWYDD; Llanw omer o hono, i'w gadw i'ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi âg ef yn yr anialwch, pan y'ch dygais allan o wlad yr Aipht.

33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer grochan, a dod ynddo lonaid omer o'r manna, a gosod ef ger bron yr ARGLWYDD y'nghadw i'ch cenedlaethau.

34 Megis y gorchymynodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.

35 A meibion Israel a fwyttasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanneddol: manna a fwyttasant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.

36 A'r omer ydoedd ddegfed ran ephah.

PENNOD XVII.

Y bobl yn tuchan am ddwfr yn Rephidim. 5 Duw yn eu hanfon hwy am ddwfr i'r graig yn Horeb. 8 Gorchfygu Amalec trwy ddal dwylaw Moses i fynu. 15 Moses yn adeiladu yr allor JEHOFAH-Nissi.

A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ol gorchymyn yr ARGLWYDD, ac a wersyllasant yn Rephidim: ac nid oedd dwfr i'r bobl i yfed.

2 Am hynny y bobl a ymgynhenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr ARGLWYDD?

3 A'r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fynu o'r Aipht, i'n lladd ni, a'n plant, a'n hanifeiliaid, â syched?

4 A Moses a lefodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig etto hwy a'm llabyddiant i.

5 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymmer gyd â thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wïalen yn dy law, yr hon y tarewaist yr afon â hi, a cherdda.

6 Wele, mi a safaf o'th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly y'ngolwg henuriaid Israel.

7 Ac efe a alwodd enw y lle Massah, a Meribah; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, A ydyw yr ARGLWYDD yn ein plith, ai nid yw?

8 ¶ Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd âg Israel yn Rephidim.

9 A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd âg Amalec: y fory mi a safaf ar ben y bryn, a gwïalen DUW yn fy llaw.

10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd âg Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fynu i ben y bryn.

11 A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.

12 A dwylaw Moses oedd drymion; a hwy a gymmerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynhaliasant ei ddwylaw ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylaw ef sythion nes machludo yr haul.

13 A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

14 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifena hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddilëu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.

16 Canys efe a ddywedodd, O herwydd tyngu o'r ARGLWYDD, y bydd i'r ARGLWYDD ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.


PENNOD XVIII.

Jethro yn dwyn at Moses ei wraig a'i ddau fab. 7 Moses yn ei groesawu ef. 13 Yntau yn derbyn cynghor Jethro. 27 Jethro yn ymadael.

Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai DUW i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o'r ARGLWYDD Israel allan o'r Aipht;

2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd Sephorah gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hol,)

3 A'i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dïeithr fûm mewn gwlad estronol.

4 Ac enw y llall oedd Eliezer: o herwydd DUW fy nhad oedd gynhorthwy i mi, eb efe, ac a'm hachubodd rhag cleddyf Pharaoh.

5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â'i feibion a'i wraig at Moses i'r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu ger llaw mynydd DUW.

6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod attat ti, a'th wraig a'i dau fab gyd â hi.

7 ¶ A Moses a aeth allan i gyfarfod â'i chwegrwn; ac a ymgrymmodd, ac a'i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i'w gilydd: a daethant i'r babell.

8 A Moses a fynegodd i'w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr ARGLWYDD i Pharaoh ac i'r Aiphtiaid, er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r ARGLWYDD hwynt.

9 A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Aiphtiaid.

10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a'ch gwaredodd o law yr Aiphtiaid, ac o law Pharaoh; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Aiphtiaid.

11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr ARGLWYDD na'r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch o hono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymmerodd boeth-offrwm ac ebyrth i DDUW: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwytta bara gyd â chwegrwn Moses, ger bron DUW.

13 ¶ A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu y bobl: a safodd y bobl ger bron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.

14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd. Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?