Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod attaf i ymgynghori â DUW.

16 Pan fyddo iddynt achos, attaf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a'i gilydd, ac yn hysbysu deddfau DUW a'i gyfreithiau.

17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18 Tydi a lwyr ddiffygi, a'r bobl yma hefyd y rhai sydd gyd â thi: canys rhy drwm yw'r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a'th gynghoraf di, a bydd DUW gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron DUW, a dwg eu hachosion at DDUW.

20 Dysg hefyd iddynt y deddfau a'r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a'r gweithredoedd a wnant.

21 Ac edrych dithau allan o'r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, DUW, gwŷr geirwir, yn casâu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

22 A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhêi arnat dy hun,a hwynt-hwy a ddygant y baich gyd â thi.

23 Os y peth hyn a wnei, a'i orchymyn o DDUW i ti; yna ti a elli barhâu, a'r holl bobl hyn a ddeuant i'w lle mewn heddwch.

24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25 A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a'u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

26 A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27 ¶ A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i'w wlad.

PENNOD XIX.

Y bobl yn dyfod i Sinai. 3 Cennadwriaeth Duw at y bobl trwy law Moses allan o'r mynydd. 8 Dwyn atteb y bobl at Dduw. 10Parottôi y bobl erbyn y trydydd dydd. 12 Ni wasanaetha cyffwrdd â'r mynydd. 16 Dychrynllyd bresennoldeb Duw ar y mynydd.

Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2 Canys hwy a aethant o Rephidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

3 A Moses a aeth i fynu at DDUW: a'r ARGLWYDD a alwodd arno ef o'r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Aiphtiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais attaf fi fy hun.

5 Yn awr, gan hynny, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy llais, a chadw fy nghyfammod, chwi a fyddwch yn drysor prïodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddo fi yr holl ddaear.

6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7 ¶ A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchymynasai yr ARGLWYDD iddo.

8 A'r holl bobl a gyd-attebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr ARGLWYDD.

9 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r ARGLWYDD.

10 ¶ Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,

11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: o herwydd y trydydd dydd y disgyn yr ARGLWYDD y'ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

12 A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fynu i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwrr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.

13 Na chyffyrdded llaw âg ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano yr udgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.

14 ¶ A Moses a ddisgynnodd o'r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16 A'r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17 A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â DUW; a hwy a safasant y'ngodre y mynydd.

18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o'r ARGLWYDD arno mewn tân: a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19 Pan ydoedd llais yr udgorn yn hir, ac yn cryfhâu fwyfwy, Moses a lefarodd; a DUW a attebodd mewn llais.

20 A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr ARGLWYDD Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fynu.

21 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i'r bobl; rhag iddynt ruthro at yr ARGLWYDD i hylldremmu, a chwympo llawer o honynt.

22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr ARGLWYDD; rhag i'r ARGLWYDD ruthro arnynt.

23 A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fynudd Sinai; oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fynu, ac Aaron gyd â thi; ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl, i ddyfod i fynu at yr ARGLWYDD; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.