PENNOD XXXV.
Y Sabbath. 4 Ewyllysgar offrymmau i'r tabernacl. 20Parodrwydd y bobl i offrymmu. 30Galw Bezaleel ac Aholïab i'r gwaith.
CASGLODD Moses hefyd holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma y pethau a orchymynod yr ARGLWYDD eu gwneuthur.
2 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Sabbath gorphwys i'r ARGLWYDD: llwyr-rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.
3 Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabbath.
4 ¶ A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma y peth a orchymynodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
5 Cymmerwch o'ch plith offrwrn yr ARGLWYDD: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r ARGLWYDD; aur, ac arian, a phres,
6 A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,
7 A chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
8 Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl-darth peraidd,
9 A meini onix, a meini i'w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.
10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynodd yr ARGLWYDD;
11 Y tabernacl, ei babell-len a'i dô, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau,
12 Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia,
13 Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos,
14 A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer; a'i lampau, ac olew y goleuni,
15 Ac allor yr arogl-darth, a'i throsolion ac olew yr enneiniad, a'r arogl-darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl,
16 Allor y poeth-offrwm a'i halch bres, a'i throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed,
17 Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,
18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,
19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.
20 ¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi ger bron Moses.
21 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD, tu ag at waith pabell y cyfarfod, a thu ag at ei holl wasanaeth hi, a thu ag at y gwisgoedd sanctaidd.
22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr a'r a offrymmodd offrwm, a offrymmodd aur i'r ARGLWYDD.
23 A phob un a'r y caed gyd âg ef sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant.
24 Pob un a'r a offrymmodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD: a phob un a'r y caed gyd âg ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.
25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.
26 A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.
27 A'r penaethiaid a ddygasant feini onix, a meini i'w gosod ar yr ephod, ac ar y ddwyfronneg;
28 A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i'r arogl-darth peraidd.
29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ag at yr holl waith a orchymynasai'r ARGLWYDD trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r ARGLWYDD offrwm ewyllysgar.
30 ¶ A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr ARGLWYDD erbyn ei enw, Bezaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah:
31 Ac a'i llanwodd ef âg yspryd DUW, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;
32 I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,
33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.
34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.
35 Efe a'u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychymmygu cywreinrwydd.
PENNOD XXXVI.
Rhoddi offrwm y bobl yn llaw y gweithwyr. 5 Gorfod gwahardd haelioni y bobl. 8 Llenni y cerubiaid. 14 Y llenni o flew geifr. 19 Y babell-len o grwyn. 20Y byrddau a'u morteisiau. 31 Y barrau. 35 Y wahenlen. 37 Y gaeadlen i'r drws.
Yna y gweithiodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cyssegr, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr ARGLWYDD.
2 A Moses a alwodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr celfydd, y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesâu at y gwaith i'w weithio ef.
3 A chymmerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant atto ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.
4 A'r holl rai celfydd, a'r oedd yn gweithio holl waith y cyssegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5 ¶ A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae'r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i'r gwaith a orchymynodd yr ARGLWYDD ei wneuthur.
6 A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy y gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gwr na gwraig waith mwy tu ag at offrwm y cyssegr. Felly yr attaliwyd y bobl rhag dwyn mwy.
7 Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith i'w wneuthur, a gweddill.