Tudalen:Y Beibl (Argraffiad Caergrawnt 1891).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

8 ¶ A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o lïan main cyfrodedd, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.

9 Hŷd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i'r holl lenni.

10 Ac efe a gydiodd bùm llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pùm llen eraill wrth ei gilydd.

11 Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwrr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, y'nghydiad yr ail.

12 Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwrr eithaf i'r llen ydoedd y'nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall.

13 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bach|au; fel y byddai yn un tabernacl.

14 ¶ Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell-len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.

15 Hŷd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg.

16 Ac efe a gydiodd bùm llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain.

17 Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen y'nghydiad yr ail.

18 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell-len i fod yn un.

19 Ac efe a wnaeth dô i'r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.

20 ¶ Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.

21 Deg cufydd oedd hŷd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.

22 Dau dyno oedd i'r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.

23 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl; ugain ystyllen i'r tu dehau, tu a'r dehau.

24 A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.

25 Ac i all ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen,

26 A'u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

27 Ac i ystlysau y tabernacl, tu a'r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen.

28 A dwy ystyllen a wnaeth efe y'nghonglau'r tabernacl i'r ddau ystlys.

29 Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

30 Ac yr oedd wyth ystyllen; a'u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.

31 ¶ Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,

32 A phùm bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod y tabernacl i'r ystlysau o du y gorllewin.

33 Ac efe a wnaeth y barr canol i gyrhaeddyd trwy'r ystyllod o gwrr i gwrr.

34 Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau âg aur.

35 ¶ Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.

36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt âg aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.

37 ¶ Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;

38 A'i phùm colofn, a'u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a'u cylchau, âg aur: ond eu pùm mortais oedd o bres.


PENNOD XXXVII.

Yr arch. 6 Y drugareddfa a'r cerubiaid. 10Y bwrdd a'i lestri. 17 Y canhwyllbren, a'i lampau, a'i offer. 25 Allor yr arogldarth. 29 Olew yr enneiniad, a'r pêr-arogldarth.

ABESALEEL a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

2 Ac a'i gwisgodd hi âg aur pur o fewn, ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.

4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt âg aur.

5 Ac a osododd y trosolion trwy y modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.

6 ¶ Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.

7 Ac efe a wnaeth ddau gerub aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;

8 Un cerub ar y pen o'r tu yma, a cherub arall ar y pen o'r tu arall: o'r drugareddfa y gwnaeth efe y cerubiaid, ar ei dau ben hi.

8 A'r cerubiaid oeddynt, gan ledu esgyll tu ag i fynu, a'u hesgyll yn gorchuddio y drugareddfa, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau y cerubiaid oedd tu ag at y drugareddfa.

10 ¶ Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.

12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.

13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.

14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt âg aur i ddwyn y bwrdd.

16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i phïolau, a'i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.

17 ¶ Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.

18 A chwech o geingciau yn myned allan o'i ystlysau: tair caingc o'r canhwyllbren o un ystlys, a thair caingc o'r canhwyllbren o'r ystlys arall.

19 Tair padell ar waith almonau, cnap a