blodeuyn oedd ar un gaingc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn, ar gaingc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chaingc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.
20 Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a'i flodau.
21 A chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono, a chnap dan ddwy gaingc o hono; yn ol y chwe chaingc oedd yn dyfod allan o hono.
22 Eu cnapiau a'u ceingciau oedd o'r un: y cwbl o hono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.
23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a'i efeiliau, a'i gafnau, o aur pur.
24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a'i holl lestri.
25 ¶ Gwnaeth hefyd allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o'r un.
26 Ac efe a'i gwisgodd hi âg aur coeth, ei chaead, a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i'w dwyn arnynt.
28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt âg aur.
29 ¶ Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a'r arogl-darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.
PENNOD XXXVIII.
Allor y poeth-offrwm. 8 Y noe bres. 9 Y cynteddfa. 21 Cyfrif o offrymmau y bobl.
AC efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bùm cufydd ei hŷd, a phùm cufydd ei lled, yn bedeirongl, ac yn dri chufydd ei huchder.
2 Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un, ac efe a'i gwisgodd hi â phres.
3 Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.
4 Ac efe a wnaeth i'r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.
5 Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwrr yr alch bres, i fyned am drosolion. goed Sittim y ac a'u gwisgodd hwynt â phres.
6 Ac efe a wnaeth drosolion o
7 Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi âg ystyllod.
8 ¶ Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
9 ¶ Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys dehau, tu a'r dehau, llenni'r cynteddfa oedd o lïan main cyfrodedd, o gàn cufydd:
10 A'u hugain colofn, ac â'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau, o arian yr oeddynt.
11 Ac ar du y gogledd, y llenni oedd gàn cufydd; eu hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau o arian.
12 Ac o du y gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau y colofnau, a'u cylchau, o arian.
13 Ac i du'r dwyrain tu a'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.
14 Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais.
15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, o ddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais.
16 Holl lenni y cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o lïan main cyfrodedd.
17 A morteisiau y colofnau, oedd o bres; pennau y colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian, a holl golofnau y cynteddfa oedd wedi eu cylchu âg arian.
18 A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hŷd, a'i huchder o'i lled yn bùm cufydd, ar gyfer llenni y cynteddfa.
19 Eu pedair colofn hefyd, a'u pedair mortais, oedd o bres; a'u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a'u cylchau oedd arian.
20 A holl hoelion y tabernacl, a'r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres.
21 ¶ Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.
22 A Bezaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Judah, a wnaeth yr hyn oll a orchymynodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
23 A chyd âg ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwnïedydd mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main.
24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cyssegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gàn sicl a deg ar hugain, yn ol sicl y cyssegr.
25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynulleidfa, oedd gàn talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thri ugain, yn ol sicl y cyssegr.
26 Becah am bob pen; sef hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.
27 Ac o'r càn talent arian y bwriwyd morteisiau y cyssegr, a morteisiau y wahanlen; càn mortais o'r càn talent, talent i bob mortais.
28 Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thri ugain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.
29 A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thri ugain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.
30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri yr allor;
31 A morteisiau y cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.
PENNOD XXXIX.
Gwisgoedd y weinidogaeth, a'r gwisgoedd sanctaidd. 2 Yr ephod. 8 Y ddwyfronneg. 22 Mantell yr ephod. 27 Y peisiau, y meitr, a'r gwregys o lïan main. 30Talaith y goron sanctaidd. 32 Moses yn golygu y cwbl, ac yn eu bendithio.
AC o'r sidan glas, a'r porphor, a'r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cyssegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchymynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.
2 Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd
3 A gyrrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a'i torrasant yn edafedd, i weithio yn y '