Tudalen:Y Bibl Cyssegr-Lan (BFBS 1861).pdf/977

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iachaodd. A'r wraig a iachâwyd o'r awr honno.)

23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ'r pennaeth, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,

24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llangces, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.

25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llangces a gyfododd.

26 A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.

27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarhâ wrthym.

28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant atto: a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.

29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.

30 A'u llygaid a agorwyd: a'r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.

31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy'r holl wlad honno.

32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant atto ddyn mud, cythreulig.

33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.

34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.

35 A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

36 A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.

37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml:

38 Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhauaf.

PENNOD X.

1 Crist yn anfon ei ddeuddeg apostol, gan roddi gallu iddynt i wneuthur rhyfeddodau: 5 yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dysgu, 16 ac yn eu cysuro yn erbyn erlidiau, 40 ac yn addaw bendith i'r rhai a'u derbynio hwynt.

1 Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl atto, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachâu pob clefyd a phob afiechyd.

2 Ac enwau'r deuddeg apostolion yw'r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;

3 Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y publican; Iago mab Alffëus, a Lebëus, yr hwn a gyfenwid Thadëus;

4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.

5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn:

6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.

7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesâu.

8 Iachêwch y cleifion, glanhêwch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.

9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau;

10 Nac ysgrepan i'r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i'r gweithiwr ei fwyd.

11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith.

12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo.