Tudalen:Y Cychwyn.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Inja-roc 'rŵan, hogia'," meddai Wil. "Tyn di yn y pwl-awê, Huw, a mi ro' i gythral o sgwd i'r stondin pan fydd y bêl wedi canu'r gloch."

"Reit."

Ond gwyddai'r werthwraig dew am yr ystryw hwnnw, a gofynnodd i Wil fod mor garedig â pheidio â phwyso yn erbyn ei stondin. Galwodd ef yn 'dearie', ond yr oedd ei llygaid yn galed a'i gwên wneud yn fygythiad. Llipryn main o'r inja-roc, rhy wan i sefyll yn ei le, a enillodd Huw.

"Mi driwn ni stondin yr hen fôi gwallt-gwyn 'na 'ta', hogia"," meddai Wil. "Tyn di y tro yma, Now, a mi gymera' i arna' 'mod i wedi meddwi."

Hen ŵr dwys a breuddwydiol yr olwg a ofalai am y bwrdd nesaf. Edrychai, yn ei ddillad duon parchus a'i goler big a'i glamp o dei patriarchaidd, yn fwy cymwys i arwain Cymanfa Bwnc nag i eistedd tu ôl i stondin inja-roc.

"Ifan Ifans wedi colli'r llwybyr, Wil," meddai Owen wrth ei weld.

"Wedi cael y llwybyr, was," ebe Wil.

Pan ganodd y gloch, cydiodd y "dyn meddw" yn wyllt yn y stondin i'w sadio'i hun. Newidiodd y bêl ei chwrs yn sydyn, ac anelodd yn syth am baladr urddasol o inja-roc, brenin y bwrdd. "Very good, very good indeed," meddai'r hen wr mewn edmygedd dwys. "Magnificent, in fact."

Ond petrusodd y bêl, aeth hithau'n feddw am ennyd, yna troes i'r dde, ac ymgartrefodd gyda stympyn disylw iawn. "Oh, pity; yes indeed, a great pity," ebe'r hen ŵr. "But a noble effort, my boy, a glorious failure." Ac o'i fawr haelioni rhoes ddarn ychwanegol i Owen wrth lapio'r stympyn.

Pwyswyd yn erbyn trydedd stondin; tynnodd Wil, yn 'feddw' eto, y bedwaredd tuag ato; gan gymryd arno chwilio am geiniog a gollasai, aeth Huw o dan y bumed i'w chodi dipyn; gyrrwyd y bêl yn gyflym gyflym, yn araf araf, yn sydyn sydyn; ond ni ddaeth lwc ar fyrddau'r inja-roc.