Tudalen:Y Cychwyn.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heibio. Safodd yno'n hir gan deimlo braidd yn unig, a'r rhuthr a'r chwerthin a'r rhegfeydd o'i gwmpas fel sŵn trai ar draethau pell. Nid oedd Dafydd nac Elias Thomas na Thaid yn y ffair: a oedd yn iawn iddo ef fod yno? "Gwagedd o wagedd, gwag- edd yw'r cwbl," meddai adnod yn Llyfr y Pregethwr. Ai am ffair y meddyliai'r awdur, tybed, pan ysgrifennodd hi? "Fedrwch chi saethu, Herbert?"

Llais ei chwaer Enid.

"Saethu? Medra'! Crack shot. Bull's eye bob tro."

Beth yn y byd a welai Enid yn yr ysgogyn hwn? Gadawsai hi dŷ Richard Davies y Stiward ers tros flwyddyn ac. aethai i weini i Gaer Heli, gan ddod adref weithiau, ond yn bur anaml yn awr, i fwrw'r Sul. Gwyddai Owen fod ei fam yn poeni yn ei chylch ac yn gwrando'n bryderus ar straeon rhai a ddigwyddai daro arni yn y dref. Clerc yn yr orsaf oedd yr Herbert hwn, ac yn ôl pob hanes yr oedd yn greadur gwyllt ac ofer, yn goegyn a brolgi nad âi ar gyfyl un capel. Hwn oedd y tro cyntaf i Owen ei weld, a chasaodd ef wrth ei wylio'n sefyll yn simsan wrth y bwrdd saethu a'i lygaid yn hanner-gau a'i wefl yn llaesu ag ysgorn a doethineb meddw.

Anelodd yn rhodresgar o ofalus, saethodd, a thrawodd ymyl y cylch gwyn o'i flaen. Chwarddodd Enid dros y lle gan daflu'i phen yn ôl, a'i llygaid mawr yn ddisglair a'i dannedd perffaith fel ifori. Cariai'i het yn ei llaw, ac fel y chwarddai ysgydwai llywethau modrwyog ei gwallt cringoch ar ei phen. Mor debyg i'w thad yr oedd! meddyliodd Owen. Cofiodd y bore hwnnw pan safodd ef wrth wal Elias Thomas a gwylio'i dad yn mynd ymaith tua'r Twll gan daflu'i ben yn ôl a chwerthin pan ddywedodd rhywun rywbeth digrif wrtho. Ia, Enid a'i chwerthin diofal a'i gwallt cringoch a'i chorff tal, lluniaidd, oedd y debycaf o'r plant i'w thad. Syllodd Owen arni gydag edmygedd er mai ef, ei brawd, a ddywedai hynny, hi oedd y ferch lanaf yn y ffair.