Tudalen:Y Cychwyn.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ganddo ar ei elw. Arhosodd y ddau o flaen bwth yr hwp- la, gan wylio llanc medrus a fu bron ag ennill cloc bychan o farmor. Bron—oherwydd yr oedd i'r cloc sylfaen ysgwâr a gwrthodai'r cylch a da flasai'r llanc lithro tros hwnnw a gorwedd yn fflat ar felfed y bwrdd.

"Cloc bach del, yntê?" meddai Mary. "Un o'r rhai dela' welis i 'rioed."

"'Fasach chi'n licio'i gael o?" gofynnodd Owen.

"Hy, 'fedar neb 'i ennill o, mae'n debyg. Mae'r bobol 'ma'n gwbod be' maen' nhw'n wneud."

Rhoed i Owen dri chylch am geiniog ac anelodd am y cloc y trithro, ond heb lwc. Gwariodd geiniog arall, eto'n ofer. Aeth y cylch am y cloc y cynnig olaf, ond ni orweddodd ar y bwrdd.

"O, gadewch iddo fo, Owen," meddai Mary, gan weld y siom yn ei wyneb.

"Tri chynnig i Gymro!" A thalodd am dri chylch eto—â'i geiniog olaf.

Methodd â'i dafliad cyntaf, ond cafodd yr ail gylch am y cloc, a dim ond y mymryn lleiaf o gongl y sylfaen farmor a'i cadwai rhag mynd ar y melfed.

"Brysiwch, tra bydd hi wedi troi'i chefn," sibrydodd Mary, gan wylio'r wraig addurnedig a ofalai am y bwth. "'Rwan!" Taflodd Owen ei drydydd cylch a llwyddodd i daro'r ail ag ef, a'i yrru tros y gongl. Gorweddai'r cylch yn awr yn fflat ar y melfed, a churodd Mary ei dwylo'n gyffrous, a'i llygaid duon duon yn fflachio'n llon.

"Hwdiwch, i chi y mae o, Mary," meddai Owen wedi i'r wraig addurnedig, yn bur anfoddog, roi'r cloc yn ei ddwylo. "O, na, chwara' teg, yr ydw' i'n siŵr y basa'ch mam ne' Enid. . ."

"Os dechreuwch chi wneud unrhyw lol, mi fydda' i'n dilyn siampl y soldiwr hwnnw ac yn rhoi cusan i chi o flaen y bobol 'ma i gyd."