"Diolch, chum, diolch. 'R Aifft, Shwdan, Khartŵm efo Gordon, Byrma, India. A sh—oldier of the Queen, Shyr, sh— oldier of the Queen." Curodd ei frest yn herfeiddiol, yna ysgydwodd law ag Owen, saliwtiodd, a throes yn ei ôl tua'r adwy a thua thafarn Ty'n Llan gyferbyn â hi.
"Be' ddigwyddodd, Mary?" gofynnodd Owen i chwaer Huw pan ddaeth hi ato o'i chuddfan.
"Ron i'n siarad efo rhai o'r 'gennod yn y lôn, ac yn sydyn dyma hwn'na'n rhoi'i fraich am f'ysgwydd i a thrio 'nghusanu i.
'Roeddach chi ar fai 'i faglu o fel'na, Owen."
"Pam?"
"Mi fasa' wedi hannar eich lladd chi 'tai o'n gwbod mai chi ddaru."
"Mi fasa' wedi trio, beth bynnag. . . Pryd y daethoch chi i'r ffair, Mary?"
"O, yn syth ar ôl te. Mi adawodd Miss Roberts imi orffan. yn gynnar pnawn." Yr wniadwraig y gweithiai iddi oedd "Miss Roberts". "Ron i'n meddwl cychwyn adra' 'rŵan."
"A finna' hefyd, ar ôl edrach am Huw a Wil."
"O, 'welwch chi mo'r rheini—heb i chi fynd hyd ffordd Llan Eithin i chwilio amdanyn' nhw."
"'Ddowch chi. . . 'ddowch chi adra' efo fi?"
"'Wn i ddim. Mae'r 'gennod . . . O, dacw nhw." Chwifiodd ei llaw ar dair geneth ar y ffordd a chwifiasant hwythau'n ôl, ond gan wenu'n awgrymog a throi ymaith tua berw'r ffair.
"Dydyn nhw ddim am gychwyn adra', mae'n amlwg," ebe Owen. "Ddowch chi, Mary?"
"Wel . . . oreit. Ond mi liciwn i fynd rownd y cae 'ma unwaith eto."
"O'r gora'." Fel y cerddent heibio i'r bythau a'u gwaeddwyr croch a'u tyrrau llawen o ymgeiswyr, teimlai Owen yn ddig wrtho'i hun am na ddaethai ag arian gydag ef. Dim ond tair ceiniog a