Tudalen:Y Cychwyn.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

𝒫𝑒𝓃𝓃𝑜𝒹 5

CODODD yr hen weinidog o'i gadair, troes y golau ymlaen, caeodd lenni'r ffenestr, ac yna croesodd at y silffoedd llyfrau a thynnu allan gyfrol fechan . . . "On Heroes, Hero-worship, and Kindred Subjects". Diar, yr oedd blynyddoedd meithion er pan ddarllenasai'r llyfr, a brynasai Dafydd yn ail-law un Sadwrn ym marchnad Caer Heli, ond fel y troai'r dalennau dôi peth o'r cynnwrf cyntaf hwnnw yn ôl iddo. Syllodd eto ar ddarnau a farciwyd ganddo pan oedd yn ddeunaw oed a'i gampwaith o bregeth yn fawr yn ei feddwl. Mor ddigydwybod o rwydd y benthyciodd angerdd a huodledd a syniadau Carlyle ar gyfer y rhannau pwysicaf ohoni, gan lefaru'n llithrig am Fahomed er na wyddai fawr ddim amdano, am Shakespeare, Luther, Arwr nad oedd cyn hynny ond enw a glywsai ar ddamwain mewn ambell bregeth! Llithrodd taflen fechan, rhestr testunau Eisteddfod Siloam gynt, o'r llyfr i'r llawr, ac wedi iddo roi'r gyfrol yn ei hôl dychwelodd i'w gadair a'r daflen yn ei law . . . "Traethawd—Natur a dyben goruchwyliaeth Moses. Gwobr 5s., 3s. 6c." Ia, â thriswllt o'r goron honno y prynodd dri o lyfrau Owen M. Edwards— Llynnoedd Llonydd', 'O'r Bala i Geneva', a 'Tro yn Llydaw', gan fynnu eu dewis hwy yn hytrach na Chofiant a Phregethau'r Dr. David Saunders, cyfrol yr âi Elias Thomas i ecstasi yn ei chylch. Ond, a bod yn onest, gwyddai y câi fenthyg honno gan yr hen flaenor.

Cofiai'n dda y noson, tua phythefnos ar ôl ffair Bryn Llwyd, pan aeth am dro i Dŷ Pella' i edrych am Garlo, a oedd yn wael, a phan siaradodd ei daid gyntaf wrtho am ei ddyfodol. Wedi iddo adael y pentref, cerddodd yn araf gan aros weithiau i syllu