Tudalen:Y Cychwyn.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ogoniant y machlud draw i gyfeiriad y môr. Machlud yn yr hydref, a'i niwlen o borffor tawel yn ymestyn ac yn dyfnhau tros y mynyddoedd agos . . . "Pan edrychwyf ar y nefoedd . . . Onid ydym yn ddall, gyfeillion? Onid oes mwgwd ar ein llygaid? Onid awn heibio i holl harddwch, i holl odidowgrwydd, i holl ryfeddod y ddaear a'r nef heb eu gweld? Onid sefyllian i graffu ar bethau dibwys yr ydym, bobol, yn lle dyrchafu ein llygaid i'r mynyddoedd, o ba le . . . " Torrwyd ar huodledd ei feddwl gan lais Wil Cochyn.

"Hylo'r hen Now, chdi sy 'na? Mynd i Dŷ Pella'?"

"Ia."

"Rydw' inna'n mynd i dŷ Lias Tomos."

Cerddodd y ddau gyda'i gilydd yn dawel. Gwyddai Owen beth a olygai ymweliad Wil â thŷ Elias Thomas. Yr oedd ei fam yn wael, yn ffwndrus iawn ei meddwl weithiau, a'r hen. flaenor oedd y gorau o bawb am ei chysuro a'i thawelu pan ddôi un o'r pyliau hynny trosti.

"Noson braf, Wil?"

"Ydi, 'chgan."

"Ydi, wir. Yr awyr 'cw'n dlws, ond ydi?"

"Ydi, 'chgan."

"'Wyddost ti be' on i'n feddwl 'rŵan?"

"Na wn i, be'?"

"Meddwl 'tawn i'n medru tynnu llunia' a pheintio fel chdi . . . "

"'Rydw' i wedi rhoi'r gora' iddi."

"O? Piti, fachgan, piti garw, a chditha' mor alluog."

"Paid â siarad fel prygethwr, Now Êl."

Ni welsai'r ddau gyfaill fawr ddim ar ei gilydd ers pythefnos. Rhwng dilyn cyrddau'r capel yn selog bron bob gyda'r nos, astudio wedyn i gadw'i addewid i Ddafydd, a mynd am dro ambell noson efo Mary, ychydig o amser a gawsai Owen yn weddill. Ond meddyliodd lawer am Wil, a holai rywun bob