Tudalen:Y Cychwyn.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd am gyflwr ei fam, gan wybod mor hoff oedd ef a'i chwaer Myfanwy ohoni.

Cerddodd y ddau heb air am dipyn. Teimlai Owen yn euog: er ei holl brysurdeb, dylai fod wedi galw i weld Wil.

"Sut . . . sut mae dy fam heno, Wil?"

"Ddim yn dda o gwbwl. Mi alwodd y Doctor gynna'."

"Be' ddeudodd o?"

"Isio iddi fynd i ffwrdd. I'r lle 'na yn Ninbych. Ond mae'r hen Lias yn siŵr o fedru dŵad â hi ati 'i hun."

"Ydi."

"Mi . . . mi ddaru 'mosod ar 'Fanwy heno. 'Fanwy of bawb, a hi a 'Mam yn meddwl y byd o'i gilydd! Ond mae'r hen Lias yn siŵr o fedru dŵad â hi ati'i hun, ond ydi, Now?"

"Ydi, 'r hen Wil, ydi."

"Mae o'n beth rhyfadd, ond mae gweld a chlywad yr hen Lias yn gwneud y byd o wahaniaeth iddi hi. Dim ond iddo fo siarad efo hi am dipyn ac wedyn ddarllan pennod ne' emyn ne' ddau, mae'r hen edrychiad gwyllt 'na'n cilio o'i llygaid hi. Rhyfadd, yntê? 'I gwneud hi'n waeth, nid yn well, mae'r hen Eb, wedyn, pan fydd o'n galw acw." Y Parch. Ebenezer Morris oedd "'r hen Eb."

Nesaent at y rhes fechan o dai tua hanner milltir tu allan i'r pentref. Codasid hwy ddeugain mlynedd ynghynt pan agorwyd tipyn o chwarel ar ochr y Clogwyn, ond byr fu oes y chwarel, ac i waith y Fron yr âi dynion Tai Gwyn ers blynyddoedd bellach.

"Fydd Lias Tomos yn y tŷ, tybed?"

"Bydd, mae'n debyg, Wil. Pur anaml y bydd o'n mynd i'r Band of Hope."

"Mi alwais i yn y capal rhag ofn 'i fod o yno."

"O, mae o'n siŵr o fod gartra' 'ta'."

Yr hen flaenor ei hun a ddaeth i'r drws.

"Hylô, Lias Tomos. Dŵad i ofyn ddowch chi acw."