"Do, debyg iawn, William. O, yr wyt titha' yna, Owen?
Dowch i mewn am funud, hogia', dowch i mewn."
"Ddo' i ddim, Lias Tomos, diolch. Mynd i'r drws nesa' at Taid yr ydw' i."
Wrth guro ar ddrws Tŷ Pella', syllodd Owen eto ar aur a phorffor a gwaed y machlud. Oedd, yr oedd yn hardd. Ond yr oedd caredigrwydd syml Elias Thomas yn . . . yn harddach.
"Sut mae o heno, Taid?"
"Mae'r hen frawd yn darfod, mae arna' i ofn, Owen."
Gorweddai'r hen gi ar bentwr o ddillad ar aelwyd y gegin, ond ni chymerodd yr un sylw o Owen pan wyrodd ef uwch ei ben.
"Carlo! Carlo! 'Rhen Garl!"
Agorodd y ci ei lygaid mawr brown, ond fflam yn pylu oedd y golau ynddynt.
"Mi fûm i fyny drwy'r nos neithiwr efo fo, ond 'doedd 'na fawr ddim fedrwn i 'i wneud, dim ond 'i gadw fo'n gynnas, gwlychu'i ena' fo bob hyn a hyn, a rhoi diferyn o ddŵr—barli iddo fo weithia'. Yr hen Garlo druan." Yr oedd llygaid Owen Gruffydd yn llaith. "Hylô, dyna'r brêc o Gaer Heli, yntê? Ond mi ro' i amsar iddo fo fynd i'r tŷ a chael 'i wynt ato."
"Pwy, Taid?"
"Harri Hughes, Nymbar Wan. 'Roedd o'n mynd i'r dre yn syth ar ôl dŵad adra' o'r chwaral ac mi addawodd alw yn y Farchnad trosta' i. Mae'r hen Lysieuwr hwnnw sy yno yn dallt cŵn i'r dim, medda' fo i mi."
"Sut mae mab Harri Hughes, Taid?"
"Iorwerth? Cwla iawn, fachgan. A 'rwan mae Harri wedi colli ffydd yn y Doctor ac yn mynd at yr hen Lysieuwr 'na. 'Wn i ddim ydi o'n gwneud yn ddoeth, wir, ond mae rhywun yn barod i drio rhwbath wrth weld yr hogyn druan yn mynd yn