Tudalen:Y Cychwyn.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sul; o Ddafydd, a gymerai arno, ac un llaw ym mhoced ei drowsus a'r llall yn dal y llyfr emynau'n esgeulus, nad oedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y gwasanaeth heno. O Ddafydd yn fwy na neb; o Ddafydd, a fugeiliodd ei feddyliau ef o fis i fis, o flwyddyn i flwyddyn, heb yn wybod iddo bron; o Ddafydd ddiymhongar, anhunanol, deallus, a'i harweiniodd ef i borfeydd gwelltog llyfrau da, a da flodd mewn ymgomiau. tawel, dwys, oleuni ar lawer pwnc, a . . .

Teimlai fod rhywun mingam, gelynol, yn ei wylio o rywle tu ôl i ysgwydd Dafydd. Wil Cochyn: a phan syllodd Owen arno, edrychodd Wil ymaith a'i lygaid yn galed a'i enau'n dynn. Wrth ei ochr canai'i chwaer Myfanwy yn isel a phetrus fel petai hithau'n anniddig yng ngŵydd surni llwm ei brawd. Taflodd Owen olwg tros rai o'i nodiadau yn beiriannol, a chynnwrf yn ei feddwl.

Byth er pan aed â'i fam i ffwrdd, ni ddôi Wil yn agos i'r capel, ac er i Ddafydd a Huw geisio'i gymell droeon i ddod i'r Ysgol Sul, aros gartref yn sarrug a wnâi. "Mi faswn i'n falch 'taet ti'n siarad efo fo, Now," oedd sylw Dafydd un noson ar y ffordd o'r chwarel. "Mi glywis i 'i fod o wedi dechra' taro i mewn i'r Crown 'na." "Mi a' i yno heno nesa'," atebodd Owen. Ond nid oedd Wil yn y tŷ pan alwodd y noson honno na'r un ddilynol, a rhywfodd, cofiodd Owen yn euog, aeth y peth yn angof ganddo wedyn. Piti os oedd yr hen Wil, yn ei hiraeth am ei fam, a garai'n angerddol, yn mynd oddi ar yr echel.. Gwelai Ffowc y Saer, yr Arweinydd Canu, yn cau ei lyfr yn urddasol ac yna'n ei ddal i fyny yn ei law a'i ostwng yn araf gydag ymchwydd a threigl yr Amen.

Er iddo lafurio'n ddyfal i lunio'r bregeth ar yr Arwr, ni theimlai Owen ei fod yn cael hwyl ar ei llefaru y noson honno. Gwenai a nodiai Huw Jones fel petai'n cofio Mahomed a Shakespeare a Luther yn rhybela gydag ef ym Mhonc Rowler ers talwm, edrychai George Hobley yr un mor atgofus a dwys, gan lyncu poer edifeiriol yn aml, a bron na ddisgwyliai Owen