Tudalen:Y Cychwyn.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glywed Robin Ifans yn taflu 'Amen' i ganol y tawelwch. Gwyrai Huw Rôb a'i dad ymlaen yn eiddgar, a gerllaw iddynt, yr ochr arall i'r rhodfa, cytunai wyneb edmygol Esther Thomas à phopeth a ddywedai'r pregethwr. Syllai Dafydd yn syth o'i flaen tua chongl y pulpud, ond gwyddai Owen oddi wrth ei wyneb fod y bregeth yn ei fodloni. Gwrandawai bron bawb yn astud, deuai porthi aml o'r Sêt Fawr, yn arbennig o enau'r gwein- idog, ond . . . ond ni chymerai Wil Cochyn ddiddordeb, ac er y ceisiai Owen edrych i bobman ond i'w gyfeiriad ef, taflai difaterwch blwng ei gyfaill gysgod tros ei holl feddyliau. Fel y cyrhaeddai funudau olaf ei bregeth, teimlai fel petai'r difaterwch hwnnw'n mynd yn ormes arno, yn ddwrn yn ei wyneb, yn floedd yn y tawelwch, yn watwar ac yn her. Ac wrth dderbyn yr her ymda flodd gydag angerdd sydyn i'r diweddglo, a'i eiriau'n ffrydlif a'i lais yn crynu gan deimlad. Yr oedd hwn, meddyliodd amryw, wedi etifeddu dawn ac ysbryd ei daid, a dwysaodd y tawelwch o'i flaen a chryfhaodd Amenau'r Sêt Fawr oddi tano. Fel y caeai'r Beibl gwelai olau edmygedd cyndyn yn llygaid Wil.

Uchel oedd clod y gweinidog yn y Seiat wedi'r oedfa, ac ar ei ôl ef siaradodd Ffowc y Saer a blaenor arall o'r enw Richard Owen ac yna Elias Thomas, pob un yn frwd eu canmoliaeth. Yna, gydag edrychiad ymholgar o gwmpas y Sêt Fawr a chan furmur, "Dydw' i ddim yn meddwl bod 'na ddim arall yn galw am sylw, frodyr," cododd y Parch. Ebenezer Morris i derfynu drwy weddi.

"Oes." A chamodd Ifan Ifans ymlaen yn araf o'i gongl dan y pulpud. Safodd yn llonydd am ennyd, ag un llaw tu ôl iddo o dan gynffon ei gôt laes a'r llall yn chwarae â chadwyn ei oriawr, gan fwynhau'r tawelwch disgwylgar. "Oes," meddai drachefn mewn tristwch mawr, a gwyddai pawb fod y Disgyblwr ar ei draed.