Tudalen:Y Cychwyn.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'rydan ni'n medru rhoi ceiniog heibio o'r diwadd, wsti. Mi ofalwn ni y cei di bob chwara' teg, 'r hen ddyn."

Yr oedd Myrddin, wedi gwrthod yn lân gynnig am ysgoloriaeth Ganolraddol newydd yng Nghaer Heli, bellach yn was bach mewn siop, ac er nad enillai ond coron yr wythnos, cynorthwyai'r teulu hefyd drwy gludo adref fanion—asgwrn ham â llawer o gig arno, nwyddau wedi'u gwlychu neu'u hanafu dipyn ar y ffordd i Lan Feurig, ffrwythau a oedd yn debyg of fynd yn ddrwg pe gadewid hwy yn y siop i fwrw'r Sul—a roddai'i feistr, Richard Owen, iddo yn rheolaidd. A chan y perthynai i Fanchester House geffyl a chert, yr oedd y gwas bach ar ben ei ddigon. Diolchai'i fam am hynny. "Dydi Myrddin ddim yn gryf," meddai'n aml, "ac yr ydw' i'n falch yn fy nghalon fod Richard Owen yn mynd â fo allan efo fo yn y gert." "Rhwng trio rhoi anrhegion go lew iddi a threfnu brecwast da," chwanegodd Dafydd wrth Owen, "mi fydd yn rhaid inni wario tipyn ar briodas Elin, ond 'fydd 'na ddim treulia' o bwys ar ôl hynny."

"Be' am y tŷ, Dafydd?"

"Y les yn dwad i ben? Ia." Cymylodd wyneb Dafydd am ennyd, ond siriolodd drachefn ar unwaith. "O, 'dydw' i ddim yn meddwl bod rhaid inni boeni am hynny, wsti. 'Rydan ni wedi edrach ar ôl Tyddyn Cerrig ac mae o'n well tŷ o lawar na phan brynodd 'Nhad a 'Mam o cyn priodi. Maen' nhw'n siŵr o estyn y lês. Mi fùm i'n holi amryw ar y pwnc, a'r farn gyffredin ydi y bydd Meyricke yn cymryd tai'r bobol esgeulus i'w rhentu, ond yn estyn lês y rhai sy mewn cyflwr da." "Hen ddeddf ofnadwy ydi hi, yntê, Dafydd?"

"Dal tŷ ar lês? Ia."

"Meddylia, mewn difri. 'Chydig dros gan mlynadd yn ôl 'doedd 'na ddim ond llethra' creigiog yma, yn dda i ddim nac i neb. Wedyn dyna agor Chwaral y Fron a phobol yn dechra' heigio iddi i ennill tamad. A lle'r oedd y graig noeth o'r blaen, mae pentra' Llan Feurig yn codi, y tai i gyd ar lês. Erbyn